Cyngor am Ddiogelwch yn y Cartref: Peidiwch â gorchuddio awyrellau eich ffenestri
Mae awyrellau araf yn gadael awyr iach i lifo i mewn gan sicrhau bod eich cartref yn cael ei awyru’n dda. Peidiwch â gorchuddio awyrellau eich ffenestri. Mae awyrellau araf yn lleihau lleithder, ac mae hyn yn bwysig i atal cyddwysiad a llwydni. Os ydych yn poeni bod eich ffenestr yn ddrafftiog, gwnewch yn siŵr […]
Dyma enillwyr #TyfuAmAur!
Nôl yn Ebrill, dechreuon ni chwilio am y gerddi gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ein cystadleuaeth arddio gyntaf ers nifer o flynyddoedd, cawsom ein syfrdanu gan y gerddi a’r mannau gwyrdd bendigedig yn y gymuned, ac fe gafodd ein panel beirniadu dipyn o anhawster i benderfynu ar y gorau o’r goreuon. Ond o’r diwedd […]
Cymerwch ran yn ein cynllun i blannu 300 o goed ar draws Pen-y-bont ar Ogwr
Yr hydref hwn, rydyn ni’n ymuno â Choed Cadw i harddu Pen-y-bont ar Ogwr drwy blannu 300 o goed ar draws y sir. Ein bwriad yw plannu coed yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed ond cyn i ni ddechrau, rydyn ni eisiau clywed eich barn ynglŷn â’r lleoliadau. Dyma’ch cyfle chi i gymryd rhan! […]
Digwyddiadau Calan Gaeaf AM DDIM
Mwynhewch y tymor arswydus! Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau Calan Gaeaf AM DDIM ym Mhen-y-bont ar Ogwr a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi’n galw heibio. Rydyn ni’n croesawu pawb i ymuno â ni, o blant bach i oedolion sy’n caru pob math o bethau dychrynllyd! Ble byddwn ni:Dydd Mawrth 25 Hydref, Canolfan Gymunedol […]
Ymunwch â’r sgwrs am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
Beth yw Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant? Yma yn Cymoedd i’r Arfordir, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd cymunedau sy’n ffynnu. Mae cymunedau sy’n ffynnu yn amrywiol, yn deg ac yn gyfartal i bawb, lle ma pawb wedi’u cysylltu yn gymdeithasol. Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu amgylchedd i’n cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n partneriaid, a fydd yn rhoi cyfle […]
Wythnos Diogelwch Drysau Tân
Beth yw Drws Tân? Pan fod argyfwng yn digwydd, mae drysau tân yn chwarae rhan hanfodol drwy sicrhau bod tân a mwg yn cael eu dal yn ôl nes i bobl gael amser i wacáu’r adeilad yn ddiogel. Mae’n bwysig iawn bod drysau tân yn cael eu cynnal mewn cyflwr gweithio er mwyn iddynt gyflawni’r […]
Dathlu blwyddyn lwyddiannus arall yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB)
Yr wythnos hon, croesawom aelodau’r bwrdd a chyfranddalwyr i’n pencadlys i rannu ein hadolygiad blynyddol a’n cyfrifon am y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Roedd hefyd yn gyfle i rannu’r uchafbwyntiau, yn cynnwys ein cynnydd o ran adeiladu cartrefi newydd i gwrdd â’r angen lleol; buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol; a chydweithio gyda phartneriaid allweddol yn cynnwys Cyngor […]
Rhannwch eich barn am gyfle i ennill £500
Mae ein harolwg SEREN wedi cyrraedd! Eich cyfle chi i leisio’ch barn adweud wrthon ni beth ydych chi’n meddwl am y gwasanaethau addarparwn. Cynhelir yr arolwg mewn partneriaeth â Beaufort Research a byddllythyrau’n glanio ar garreg eich drws o ddydd Llun 12 Medi 2022. Postiwch eich arolwg wedi’i lenwi yn defnyddio’r amlen barod a ddawgyda’r […]
Cyngor am ddiogelwch yn y cartref: Gosod y pen cawod cywir
Mae gosod y math cywir o ben cawod yn hanfodol i sicrhau bod eich cawod drydan yn gweithio’n ddiogel. Mae rhai pennau cawod yn addas i’w defnyddio ar gawodydd cymysgu yn unig, gan y gallwch gyfyngu ar lif y dŵr neu ei stopio’n llwyr yn y rhain. Gall hyn olygu bod dŵr twym yn cronni, […]
Byddwch yn amyneddgar, os gwelwch yn dda!
Rydyn ni’n derbyn nifer fawr o negeseuon ar hyn o bryd – dros y ffôn a thrwy e-bost. Os nad yw eich ymholiad yn un brys, byddwch cystal â chysylltu â ni dro arall. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddelio â’ch galwadau a’ch e-byst mor gyflym â phosibl. Diolch