Gosod y safon aur am gartrefi saffach
Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn dechrau gweithio ym mis Ebrill 2025 tuag at ennill achrediad trwy’r Cynghrair Tai Cam-drin Domestig (DAHA). Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau mwyaf diogel posibl i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr. Golwg manylach ar y broses Bydd ennill achrediad yn broses drwyadl, a fydd yn cymryd hyd […]
Beth i’w Wneud Pan Fydd Deiliad Contract yn Marw: Terfynu Contracta Dychwelyd Eiddo
Rydyn ni’n deall bod colli rhywun agos yn brofiad anodd ac emosiynol. Gall rheoli materion ymarferol yn ystod y cyfnod hwn deimlo’n llethol. I helpu i hwyluso’r broses o derfynu eu deiliadaeth gyda ni cymaint â phosibl, dyma beth fydd ei angen gennych: Tystysgrif marwolaeth I derfynu contract yn ffurfiol, bydd angen copi o’r dystysgrif […]
Cyfleoedd cyffrous i ymuno â’n Bwrdd
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu cartrefi diogel, hapus ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ein gwreiddiau’n ddwfn yn ein cymuned leol, ac rydym yn chwarae rhan hanfodol yn ei hadfywio a sicrhau ffyniant ehangach Pen-y-bont ar Ogwr a De Cymru. Heddiw, rydym yn rheoli dros 6,000 o gartrefi diogel a fforddiadwy […]
Sioe yn Lake View: disgyblion o Borthcawl yn perfformio i’rpreswylwyr
Mwynhaodd ein cwsmeriaid yng Nghynllun Byw yn y Gymuned Lake View gadwyn o ganeuon Nadolig ddydd Mawrth diwethaf gan ddod ag ysbryd y Nadolig iddynt. Mae ein Cynlluniau Byw yn y Gymuned yn cynnig llety byw yn y gymuned i breswylwyr dros bum deg oed ac maent yn cynnwys lolfeydd, ceginau, a chyfleusterau golchi dillad […]
System reoli tai newydd ar y ffordd
Rydym wedi bod yn gweithio gyda CIVICA, ein cydweithwyr, a chwithau – ein cwsmeriaid – i ddatblygu system reoli tai newydd a gwell. Cyflymu ein gwasanaethau Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio cyfuniad o systemau a thaenlenni i reoli pethau fel gwaith atgyweirio, casglu rhent, rheoli tenantiaethau a chyfathrebu â chwsmeriaid. Bydd y system […]
Wrth i gostau byw godi, mae llawer ohonom yn gorfod crafu a chynilo.
Os ydych wedi gweld newid yn eich incwm neu wedi colli swydd yn ddiweddar, gallech fod yn gymwys i dderbyn credyd cynhwysol neu fudd-daliadau eraill. Hyd yn oed os ydych yn gweithio, efallai gallech dderbyn taliad misol i atodi eich incwm a’ch helpu gyda chostau byw. Pwy all hawlio? I ffeindio allan os ydych yn […]
Mins-peis, cerddoriaeth a “Nadolig Llawen”: Preswylwyr Llys Ton yn mwynhau eu parti Nadolig blynyddol
Daeth y Nadolig yn gynnar i’n cwsmeriaid yn Llys Ton, wrth iddynt fwynhau parti Nadolig a drefnwyd gan ein Tîm Byw yn y Gymuned ymroddgar ddydd Iau diwethaf. Llys Ton yw ein hunig gynllun gofal ychwanegol, ac mae ein cydweithwyr wedi gweithio’n galed i feithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith y preswylwyr. Meddai Emma Norman, Partner […]
Gwobrau Tai Cymru: y tu hwnt i’r enwebiadau
Eleni, cawsom ein henwebu ar gyfer Gwobrau Tai Cymru mewn dau gategori – Tîm Incwm Cymunedol a’r Cyflawnwr Ifanc mewn Tai. Roeddem wrth ein bodd pan enillodd ein cwmni atgyweirio Llanw’r wobr am yr ymgyrch gorau. Er na wnaethom ennill gwobr, cawsom amser gwych yn dathlu cael cydnabyddiaeth am ein gwaith caled. Sbotolau ar Louisa, […]
Diweddariad ynglŷn â’n garejis yn Woodland Close
Cyn hir byddwn yn dymchwel y chwe garej yn Woodland Close. Pam rydyn ni’n dymchwel y garejis? Oherwydd y stormydd diweddar, mae’r garejis nawr yn anniogel. Rydym wedi siarad ag unig denant y garejis i gadarnhau y byddant yn cael eu dymchwel. Y camau nesaf Nid oes gennym ddyddiad penodol ar gyfer dymchwel y garejis, […]
Sut i gadw’n saff yn ystod tymor y stormydd
Wrth i Ben-y-bont ar Ogwr ymbaratoi ar gyfer storm arall ‒ storm Darragh ‒ gallwch gadw’n ddiogel drwy ddilyn cyngor y Swyddfa Dywydd. Pum peth i’w gwneud cyn i’r storm ddechrau: ● Clymwch eitemau rhydd fel ysgolion a dodrefn gardd a allai gael eu chwythu yn erbyn ffenestri neu wydr● Caewch yr holl ddrysau, ffenestri […]