Bacteria yw legionella a all fynd i mewn i’ch cyflenwad dŵr ac achosi clefyd y llengfilwyr os byddwch yn ei fewnanadlu.
Mae pob system ddŵr poeth ac oer yn eich cartref yn ffynonellau posibl o dwf y bacteria legionella.
Mae’r risg mwyaf yn digwydd pan nad yw dŵr cynnes rhwng 20℃ a 50℃ yn llifo ac yna mae’n cael ei ymledu mewn lleoedd fel pennau cawod, peipiau dŵr rwber, tapiau ac ati.
Mae twf bacteria yn fwy cyffredin pan fod yna rywbeth i fwydo’r bacteria – er enghraifft, arwynebau rhydlyd, slwtsh neu gen wedi cronni yn y system ddŵr.
● Fflysio cawodydd a thapiau am 10 munud os nad ydynt wedi cael eu defnyddio ers tipyn – er enghraifft, os ydych wedi bod ar wyliau neu os nad yw ystafell yn cael ei defnyddio’n rheolaidd.
● Cadwch yr holl bennau cawod a thapiau yn lân ac yn rhydd o galch, llwydni neu dwf algâu.
● Os oes gennych system storio dŵr twym yn eich cartref, fel gwresogydd troch neu wresogydd dŵr combi, gwnewch yn siŵr bod y dŵr yn cael ei storio ar dymheredd uwchlaw 60℃, ond gwyliwch rhag sgaldio.
Ydych chi wedi sylwi ar rwd neu sylwedd anarferol yn llifo o’ch allfeydd dŵr? Rhowch wybod i ni yn syth.
Mae symptomau clefyd y llengfilwyr yn debyg i symptomau’r ffliw. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y symptomau yma.
Os ydych yn amau eich bod chi neu rywun yn eich cartref yn dioddef o glefyd y llengfilwyr, cysylltwch â'ch meddyg yn syth.
Os bydd yn cael ei gadarnhau, rhowch wybod i ni.