Diogelwch Tân a Lesddeiliaid
O dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, (“Gorchymyn 2005”) mae’n rhaid cynnal Asesiad Risg Tân o’r ardaloedd cyffredin hynny mewn adeiladau sy’n cynnwys fflatiau.
Mae ardaloedd cyffredin o adeilad sy’n cynnwys fflatiau fel arfer yn golygu’r rhannau hynny o’r adeilad nad ydynt yn rhan o’r fflatiau unigol y mae pobl yn byw ynddynt; er enghraifft, y fynedfa, y cyntedd/coridor, landin a grisiau.
Mae’r Asesiad_Risg Tân yn cynnwys rheoli peryglon a risgiau.
- Mae perygl yn rhywbeth sydd â’r potensial i achosi anaf neu afiechyd i rywun
- Y risg yw’r tebygolrwydd i hyn ddigwydd. Fe allai’r risg gynyddu os yw’r perygl yn mynd yn fwy difrifol.
Y rheswm dros gynnal Asesiad Risg Tân yw nodi mesurau posibl a fydd:
- yn lleihau’r risg y bydd tân yn dechrau ac yn lledaenu
- yn darparu ffordd o ddianc
- yn canfod tanau
- yn ymladd / diffodd tanau
Fel arfer, bydd yr Asesiad Risg Tân yn cynnwys argymhellion ar gyfer eu gweithredu, er enghraifft.
- gosod larwm tân
- gosod system chwistrellu,
- gweithredu polisi ar gyfer aros yn yr adeilad neu ei wagio,
- sicrhau bod y drysau mynediad i’r fflatiau yn rhai a all yn wirioneddol wrthsefyll tân
Yn gyffredinol, bydd asesiad risg tân sylfaenol a gynhelir dan Orchymyn 2005 yn archwilio’r ardaloedd cyffredin a gall hyn gynnwys y drysau mynediad ffrynt unigol i fflatiau. Fel arfer, drysau’r fynedfa ffrynt mewn adeilad gaiff eu defnyddio fel dihangfa mewn argyfwng.
Mae angen i ddrysau mynedfa ffrynt fflatiau allu gwrthsefyll tân a hunan-gau. Y safon ofynnol yw drws sy’n gallu gwrthsefyll tân am 30 munud gyda stribedi a all arafu lledaeniad tân, seliau mwg a mecanwaith hunan-gau.
Yn aml, cyfrifoldeb y lesddeiliad yw drysau’r fynedfa ffrynt i fflatiau unigol. Os yw’r asesiad risg tân yn tynnu sylw at y ffaith nad yw drws y fynedfa ffrynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau tân, byddai’n bwysig gwirio’r brydles i weld pwy sy’n gyfrifol am y drws.
Rhaid i’r lesddeiliad ofyn am ganiatâd i newid y drws er mwyn sicrhau nad yw’r asesiad risg tân yn cael ei beryglu.
Byddai’r lesddeiliad yn gyfrifol am yr holl gostau sy’n gysylltiedig am gynnal a chadw’r drws tân neu osod un newydd yn ei le.
Mae’r systemau mesur iechyd a diogelwch ar gyfer tai yn nodi canllawiau ar niwed a pheryglon posib y gellid dod o hyd iddynt mewn unrhyw safleoedd preswyl. Caiff y canllawiau sy’n berthnasol i ddrysau tân eu crynhoi fel a ganlyn:
- dylai drysau gael eu gwneuthur/eu gosod yn iawn a bod â mecanwaith hunan-gau
- dylai drysau fedru gwrthsefyll tân