Cymoedd i’r Arfordir sy’n cynnal prif strwythur yr adeilad, a bydd lesddeiliaid yn gyfrifol am dalu cyfraniad fel sydd wedi ei nodi yn y cytundeb prydles.
Bydd y cyfraniad tuag at y costau hyn yn seiliedig ar ganran neu swm sy’n seiliedig ar arwynebedd y llawr, nifer yr ystafelloedd gwely neu swm sydd wedi’i rannu rhwng nifer y fflatiau yn yr adeilad. Gan gynnwys:
- Gorchudd y to
- Simneiau
- Waliau – allanol a strwythurol/waliau cynnal llwyth
- Ffenestri (gan gynnwys cloeon ac ategolion ffenestri)
- Drysau mynediad ffrynt a chefn o eiddo lesddaliadol sy’n agor i ardaloedd cymunedol mewnol (gan gynnwys cloeon ac ategolion drws)
- Soffitiau, gwteri, peipiau sy’n dod lawr o’r gwteri ac unrhyw nwyddau dŵr glaw eraill
- Unrhyw falconi sy’n rhan o’r adeilad (p’un a yw’n cael ei ddefnyddio gan yr eiddo lesddaliadol ai peidio)
- Unrhyw risiau allanol sy’n rhan o’r adeilad (p’un a ydynt yn cael eu defnyddio gan yr eiddo lesddaliadol ai peidio)
Bydd yr holl gostau ar gyfer gwaith atgyweirio yn cael ei gynnwys yn eich datganiad tâl gwasanaeth blynyddol. Am fwy o wybodaeth am eich tâl gwasanaeth, cliciwch yma.
Lle mae cyfleusterau sy’n cael eu rhannu neu gyfleusterau cymunedol, bydd Cymoedd i’r Arfordir yn cynnal a chadw neu’n trwsio. Gan gynnwys:
- Draenio
- Gwaith plymio sy’n cael ei rannu
- Gwasanaethau trydanol sy’n cael eu rhannu
- Gwres neu oleuadau cymunedol
- Addurno neu atgyweirio ardaloedd cymunedol neu ardaloedd a rennir
- Drysau i ardaloedd cymunedol
Mae’r lesddeiliad yn gyfrifol am y canlynol yn unol â’r cytundeb prydles, a hynny fel arfer o fewn ffiniau’r eiddo lesddaliadol:
- Plastr y waliau a’r nenfydau
- Wyneb y llawr – estyll lloriau, teils ar goncrit, ac ati
- Plymio – y cyflenwad o’r pwynt y mae’n dod i mewn i’r eiddo neu’n mynd allan ohono
- Trydan
- Unrhyw wasanaeth neu gyfleustod arall sy’n gwasanaethu’r eiddo lesddaliadol yn unig
- Drysau mynediad yn y ffrynt a’r cefn sy’n agor i ardaloedd allanol (gan gynnwys cloeon ac ategolion y drysau)
- Drysau mewnol (gan gynnwys ategolion y drysau)
- Cegin
- Ystafell ymolchi
- Gwaith addurno mewnol
- System gwres canolog a dŵr poeth
Y tu allan i’r eiddo lesddaliadol:
- Unrhyw erddi sy’n ffurfio rhan o’r brydles
- Unrhyw waliau terfyn neu ffensys sydd wedi’u marcio’n glir yn y brydles fel rhai sy’n eiddo i’r lesddeiliad
- Unrhyw lwybr, tramwyfa neu risiau sydd wedi’u marcio yn y brydles fel rhai sy’n eiddo i’r lesddeiliad
Rydym ni yn gyfrifol am waith cynnal a chadw allanol a chymunedol, sy’n amrywio o fân-waith trwsio fel ailosod teils ar do neu osod drws ffrynt cymunedol newydd, i dasgau mwy fel gwaith addurno allanol neu osod lloriau neu doeau newydd ar ardaloedd cymunedol.
Gwaith mawr neu “waith cymwys” yw’r term a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth i ddisgrifio gwaith neu waith cynnal a chadw y mae angen ei gwblhau ar adeilad lle mae modd adennill y costau gan y lesddeiliad dan delerau’r brydles.
Mae hwn yn waith sydd wedi cael ei nodi gan syrfewyr fel gwaith y mae’n rhaid ei wneud er mwyn cynnal ffabrig yr adeilad. Ni fedr lesddeiliaid atal y gwaith hwn rhag mynd yn ei flaen. Y rheswm am hyn yw bod gan Cymoedd i’r Arfordir gyfrifoldeb cyfreithiol o dan delerau eich prydles i atgyweirio a chynnal yr adeilad. Ond gallwch herio’r costau os ydych chi’n credu eu bod yn afresymol.
Os oes angen gwneud gwaith ar frys, er enghraifft atgyweirio to sy’n gollwng yn ofnadwy, gall Cymoedd i’r Arfordir ofyn am ganiatâd gan y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau (TPL) i beidio â dilyn y weithdrefn ymgynghori dan Adran 20 ZA fel y gellir gwneud y gwaith atgyweirio ar unwaith.
Nid y pris rhataf o angenrheidrwydd sy’n cynnig y gwerth gorau am arian ac er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi gwerth am arian, mae gennym weithdrefn dendro gystadleuol gynhwysfawr ar gyfer prosiectau. Rydym yn gwahodd nifer o gontractwyr a ddewiswyd yn ofalus i gynnig pris am y gwaith ac yn penodi contractwyr yn seiliedig ar ystyriaethau sy’n gysylltiedig â phris ac ansawdd.
Am ragor o wybodaeth am ymgynghoriad Adran 20, ewch i Fy Materion Cyfreithiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch y modd y dylid rheoli gwaith mawr mewn blociau sy’n cynnwys eiddo lesddaliadol.