Mae pob un ohonom wedi clywed am gostau byw yn ddiweddar, ac wrth i chwyddiant godi dydy pethau ddim yn debyg o wella yn y dyfodol agos. Yn wir, y disgwyl yw y bydd chwyddiant yn aros yn uchel am y ddwy flynedd nesaf, felly bydd mwy ohonom yn ei chael hi’n anodd talu biliau a chwrdd ag ymrwymiadau eraill.
Felly beth allwch chi ei wneud i ymdopi wrth i gostau godi ac, os ydych chi mewn trafferthion, pa gymorth sydd ar gael? Rydyn ni wedi paratoi ychydig o awgrymiadau i chi.
Gofynnwch am gyngor gan y Tîm Materion Ariannol
Mae ein Tîm Materion Ariannol ar gael i helpu ein cwsmeriaid bob amser. Efallai eich bod yn anfodlon gofyn am gymorth a chyngor, ond dyna yw ein pwrpas. Wedi’r cyfan, mae angen ffrind sy’n arbenigwr ar bawb pan fod pethau’n mynd yn anodd.
Bydd y Tîm Materion Ariannol yn rhoi cymorth cyfrinachol, gan weithio gyda chi i chwilio am ffyrdd o leihau gwariant a’ch helpu i wneud penderfyniadau ariannol doeth ar sail eich amgylchiadau personol.
Efallai bydd gennych hawl i incwm ychwanegol hefyd ‒ drwy fudd-daliadau neu ostyngiadau trethi. Mae cyfrifianellau annibynnol gwych ar gael ar-lein a fydd yn gwirio a ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol, Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, budd-daliadau anabledd a llawer mwy. Agorwch y cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein hwn i gael asesiad cyflym. Efallai byddwch yn synnu, a hyd yn oed os nad ydych chi’n gymwys, mae’n bosibl y bydd aelod o’ch teulu’n gallu hawlio rhywbeth.
Cadwch reolaeth ar eich cyllidebu
Os ydych yn deall ble yn union mae eich arian yn cael ei wario, a faint sy’n dod i mewn, bydd hyn yn eich helpu i reoli eich cyllidebu. Mae’r MoneyHelper Budget Planner yn dda iawn am eich helpu i wneud hyn.
Mae apiau sydd wedi’u cysylltu â’ch cyfrif banc yn golygu y gallwch dracio eich arian yn barhaus ac yn dangos yn glir beth sy’n dod i mewn a beth sy’n mynd allan. Bydd apiau fel Emma yn dangos pan fod biliau wedi codi ac yn cymharu i weld ble gallwch gael gwasanaethau rhatach. Unwaith y byddwch yn deall eich gwariant, gallwch ail-flaenoriaethu pethau.
Mae gwirio eich debydau uniongyrchol a’ch archebion sefydlog yn eich helpu i weld ble gallech gwtogi ar eich costau, fel canslo tanysgrifiad dydych chi ddim yn ei ddefnyddio’n aml. Gwiriwch eich cyflenwyr, fel band eang a ffôn, i sicrhau eich bod yn cael y fargen orau posibl.
Mae bwyd yn faes arall lle gallwch wneud arbedion. Mae siopa am fwyd yn un o’r costau mwyaf mae’n rhaid cyllidebu ar ei gyfer, ond drwy chwilio am ffyrdd o arbed arian, gallai fod yn haws i chi ymdopi â phrisiau sy’n codi. Cadwch lygad ar y cynigion gan archfarchnadoedd a chymharu prisiau drwy’r amser. Mae llawer o’r archfarchnadoedd yn cynnig dewisiadau prisiau isel mewn ymateb i bryderon cwsmeriaid, fel y dewis rhad ‘Just Essentials’ gan Asda. Gallwch gael bargeinion da ar eitemau cartref hefyd mewn siopau arbedion mawr fel B&M, sy’n gwerthu nwyddau glanhau wedi’u disgowntio neu amlbecynnau o hylif ymolchi. Gyda’i gilydd, mae penderfyniadau bach fel y rhain yn gwneud gwahaniaeth mawr. A chofiwch gofrestru ar gyfer unrhyw gynlluniau gwobrwyo sydd ar gael i wneud y gorau o’ch arian. Gwiriwch yr awgrymiadau cyllidebu hyn gan Moneyaware.
Rhannu ceir (heb y karaoke!)
Beth am arbed arian ar danwydd drwy drefnu rhannu ceir gyda chydweithwyr o’ch gweithle, neu ceisiwch rannu gyda rhieni eraill wrth hebrwng plant i’r ysgol. Neu’n well fyth, os oes modd, cerddwch neu ewch ar feic yn lle defnyddio’r car.
Mae Liftshare a GoCarShare yn ddau ap rhannu reidiau. Liftshare yw’r cynllun rhannu reidiau mwyaf yn y DU ac mae’n hawdd ei ddefnyddio. Mae’n gadael i chi fwcio seddau rhannu reidiau ar-lein a bydd yn eich helpu i ddod o hyd i lwybr rhannu ar gyfer eich penwythnosau neu wyliau hefyd. Mae gwefan GoCarShare yn cynnig rhannu lifftiau ar gyfer reidiau rheolaidd ac achlysurol i yrwyr a theithwyr ledled y DU.
Mae BlaBlaCar yn gweithio drwy gysylltu gyrwyr sy’n mynd i gyrchfannau poblogaidd fel meysydd awyr neu ddinasoedd â phobl sydd angen lifft. Bydd y teithiau’n rhatach hefyd, gan nad yw gyrwyr yn cael gwneud elw wrth ddefnyddio’r cynllun mae’r wefan yn cyfrifo cost y daith ac mae’r gyrwyr ddim ond yn cael rhannu’r gost hon gyda’u teithwyr yn hytrach na chodi crocbris.
Mae llawer o bobl sydd ddim yn defnyddio car bob dydd yn dewis rhannu car yn hytrach na bod yn berchen ar un. Mae dau fath gwahanol o gynllun rhannu ceir. Mae gan weithredwyr traddodiadol fflyd o geir sydd ar gael i’w prydlesu, tra bod clybiau cymar wrth gymar yn caniatáu i berchenogion rannu neu rentu eu ceir eu hun. Dyma restr o fanteision ac anfanteision y ddau gynllun. Darllenwch ganllaw Autoexpress ar rannu ceir a chlybiau ceir yma.
Defnyddio apiau rhannu
Yn lle rhoi nwyddau yn y bin neu geisio eu gwerthu ar eBay, mae rhai gwefannau yn helpi pobl i harneisio pŵer y we drwy eu cynnig i’r gymuned leol. Yn gyfnewid am hyn, maen nhw’n aml yn gobeithio cael gafael yn rhywbeth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae OLIO yn cysylltu cymdogion â’i gilydd a gyda busnesau lleol fell y gall bwyd dros ben gael ei rannu yn hytrach na’i daflu. Gallwch ddefnyddio OLIO ar gyfer eitemau cartref yn ogystal â bwyd. Gallwch gofrestru am ddim ar yr ap ‒ mae’n dangos pa gynnyrch sydd ar gael yn eich ardal leol ac yn gadael i chi drefnu i’w gasglu oddi wrth y person sydd wedi ei restru ‒ am ddim unwaith eto.
Mae Freecycle a Freegle yn ddau fudiad llawr gwlad, nid-er-elw lle mae pobl yn rhoi ac yn cael pethau am ddim yn eu Trefi ‒ mae un ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Eu pwrpas yw ailddefnyddio ac atal nwyddau da rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’r aelodaeth am ddim. A gallech hefyd sefydlu Cylch Cyfeillion bach lleol lle gallwch roi neu fenthyg eitemau i’ch ffrindiau neu gymdogion. Mae adran Freebies Gumtree yn debyg iawn i Freecycle, gan fod aelodau o’r cyhoedd yn lanlwytho eitemau maen nhw eisiau cael gwared â nhw.
A phwy sydd ddim yn hoffi eitemau am ddim? Mae Hot UK deals yn siop un safle ar y rhyngrwyd sydd nid yn unig yn cynnwys nwyddau am ddim ond hefyd talebau disgownt a chystadlaethau. Mae Latest Free Stuff, Freebie Site UK a Freebiersclub yn wefannau hawdd eu defnyddio sy’n cynnig amrywiaeth anferth o eitemau am ddim. Samplau yw’r rhain yn bennaf, felly gallwch gael amrediad cyflawn o gynhyrchion yn cynnwys siampŵ, teganau, nwyddau ecogyfeillgar a hyd yn oed siocled. Mae gan Latest Free Stuff adran awgrymiadau hefyd sy’n rhoi cyngor ar y ffordd orau o fanteisio ar gynigion am ddim (fel creu ail gyfeiriad e-bost).
Cymorth gyda chostau gofal plant
Gall rhieni sy’n gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hawlio hyd at £2,000 y flwyddyn i helpu i dalu am gostau gofal plant rheoleiddiedig, yn cynnwys clybiau gwyliau a gweithgareddau eraill y tu allan i’r ysgol, yn ystod Gwyliau’r Pasg.
Dan gynllun gofal plant di-dreth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), gall teuluoedd cymwys sy’n gweithio dderbyn hyd at £500 bob tri mis (neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl) tuag at gost clybiau gwyliau, clybiau cyn ac ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a chynlluniau gofal plant cymeradwy eraill.
Am bob £8 a delir i gyfrif gofal plant di-dreth ar-lein ar gyfer plant hyd at 11 oed, neu 17 os oes gan y plentyn anabledd, bydd teuluoedd yn derbyn £2 yn ychwanegol gan y Llywodraeth.
Defnyddiwyd y cynllun hwn gan fwy nag 11,690 o deuluoedd sy’n gweithio ar draws Cymru yn Rhagfyr 2021 gyda CThEM yn gwneud taliadau atodol gwerth £34m.
Mae ymchwil diweddar yn amcangyfrif y gallai tua 1.3 miliwn o deuluoedd fod yn derbyn y cymorth hwn gan y llywodraeth, ac mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i wirio a ydyn nhw’n gymwys ac i gofrestru ar gyfer y cynllun ar wefan GOV.UK.
Am ragor o wybodaeth, gallwch hefyd ddarllen y canllaw gofal plant di-dreth ar-lein sy’n egluro’r buddion wrth gofrestru ar y cynllun.
Beth ddylwn i ei wybod am ddyled?
Os ydych yn gweld eich bod ar fin mynd i ddyled, neu fod y dyledion roeddech yn gallu eu rheoli o’r blaen yn dechrau mynd yn llethol, dylech weithredu’n gyflym.
Os yw pris eich alldaliadau rheolaidd wedi codi, efallai byddwch yn gweld bod angen ychydig yn fwy o arian arnoch i dalu eich dyledion. Os felly, efallai bydd rhaid i chi ennill rhywfaint o arian ychwanegol, a gall hyn fod yn haws nag y byddech yn meddwl. Mae gwefan StepChange yn rhoi awgrymiadau ar sut gallech ennill ychydig o arian ychwanegol, fel defnyddio gwefannau arian-yn-ôl neu werthu nwyddau diangen ar-lein.
Dylech hefyd geisio osgoi defnyddio unrhyw gredyd oni bai eich bod yn siŵr y gallwch ei ad-dalu erbyn y dyddiad dyladwy. Meddyliwch a allech aros nes bod gennych arian wrth law cyn prynu eitemau, yn lle defnyddio gwasanaethau fel Prynu Nawr, Talu Wedyn.
Pa beth bynnag yw’r rheswm, mae’r profiad o fod mewn dyled yn achosi straen. Os ydych yn dal i’w chael hi’n anodd ac yn gweld bod gennych gyllideb negyddol neu ôl-ddyled ar unrhyw filiau cartref pwysig, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n Tîm Materion Ariannol neu sefydliad cyngor dyled fel StepChange. Mae StepChange yn cynnig cyngor dyled ar-lein, neu gallwch eu ffonio ar 0800 1381111 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm, a dydd Sadwrn, 8am i 4pm.
Hoffech chi drafod eich materion ariannol gyda rhywun?
Mae pryderu am arian yn brofiad normal, ond mae’n well wynebu hyn yn hytrach na’i anwybyddu. Os ydych mewn trafferthion ariannol, gallwch gysylltu â’n Tîm Materion Ariannol yn gyfrinachol, a byddan nhw’n gallu eich helpu i ddechrau datrys eich problemau ariannol. Neu gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim yn defnyddio erfyn am ddim Moneyhelpers, y Debt advice locator tool.