Byddem wrth ein bodd yn clywed mwy am bwy ydych chi i wella ein gwasanaethau a chynyddu ein gallu i’ch helpu
Pam mae eich data CAY yn bwysig i ni?
Mae casglu data Cydraddoldeb, Amrywiaeth ac Ymgysylltu (CAY) yn ein helpu i ddeall anghenion ac amgylchiadau unigryw ein cwsmeriaid. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i ni:
- Sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r holl wasanaethau sydd ar gael i chi a sut i gael myndediad atynt.
- Gwella’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu â chi.
- Addasu ein gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion yn well.
Sut y gallwch chi helpu?
Rhannwch eich profiad CAY gyda ni!
Siaradwch â ni yn bersonol – cadwch olwg amdanom yn eich cymuned neu yn ein digwyddiadau NEU Llenwch arolwg cyflym.
Sicrwydd Preifatrwydd
Mae eich data yn ddiogel gyda ni.
Rydym yn ymdrin â phawb yn gwbl gyfrinachol ac yn unol â chyfreithiau diogelu data.
Diolch i chi am ein helpu i wneud ein gwasanaethau yn fwy cynhwysol ac ymatebol i’ch anghenion.
Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymuned.