Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru’r Ddeddf a fyddai’n sicrhau bod rhentu cartref yng Nghymru yn symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid. Mae’n cyflwyno llawer o newidiadau a fydd yn berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.
Dylai’r Ddeddf sicrhau eich bod yn cael gwasanaeth cyson gan eich landlord, hyd yn oed os ydych yn penderfynu symud i sefydliad arall. Newidiodd eich cytundeb tenantiaeth yn ‘gontract meddiannaeth’ ar 1 Rhagfyr 2022.
Cwestiynau Cyffredin
Rhoddwyd contractau newydd i’r holl gwsmeriaid yn ystod mis Mawrth 2023. Byddant yn amrywio ychydig yn ddibynnol ar y math o denantiaeth sydd gennych gyda ni.
Mae hon yn ddogfen gyfreithiol, felly mae wedi’i geirio’n ofalus i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Os oes angen help arnoch i ddeall y contract, cysylltwch â ni.
Dyma enghraifft o gontract meddiannaeth diogel
Yr unig beth fydd angen i chi ei wneud yw darllen eich contract meddiannaeth pan gaiff ei anfon atoch.
Sicrhau bod rhentu cartref yng Nghymru yn symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid. Mae’n symleiddio cytundebau ac yn anelu at wella cyflwr cartrefi rhent yng Nghymru, ac ar yr un pryd mae’n cynnig mwy o sicrwydd a diogelwch i denantiaid a landlordiaid.
- Nawr gelwir pob tenant yn ddeiliad contract a gelwir tenantiaethau yn gontractau meddiannaeth.
- Ffitrwydd i Fod yn Gartref: Rhaid i landlordiaid sicrhau bod annedd yn ffit i fod yn gartref (FFHH). Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynnal profion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a chanfodyddion carbon monocsid sy’n gweithio yn cael eu gosod.
- Os bydd deiliad contract yn marw, efallai bydd gan y bobl sy’n byw yn y tŷ fwy o hawl i etifeddu’r denantiaeth. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawliau olyniaeth cryfach. Mae’n galluogi olyniaeth ‘â blaenoriaeth’ ac olyniaeth ‘wrth gefn’. Hefyd, mae wedi creu hawl olyniaeth newydd i ofalwyr.
- Gall deiliad contract ar y cyd gael ei ychwanegu neu ei ddileu o’r contract heb fod angen terfynu’r contract.
- Bydd landlordiaid yn gallu ailfeddiannu eiddo gadawedig heb orchymyn llys, ar ôl cyflwyno hysbysiad rhybuddio o bedair wythnos a chynnal ymchwiliadau.
Na, fyddwch chi ddim yn colli unrhyw hawliau, yn wir bydd gennych well hawliau dan gontract meddiannaeth.
Mae’r newidiadau a’r derminoleg i gynnwys ‘contract meddiannaeth’ yn y Ddeddf wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. O’r herwydd, yn anffodus ni allwch wneud dim os nad ydych yn cytuno â’r newidiadau.
Ymwadiad: Mae’r wybodaeth uchod yn enerig ac ni fwriedir iddi fod yn gyngor cyfreithiol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch cytundeb tenantiaeth/meddiannaeth penodol, cysylltwch â Chymoedd i’r Arfordir.