I’r rhan fwyaf ohonom, gall gosod paneli solar neu foeler ecoeffeithlon newydd fod yn rhy ddrud, ond gallwn bob un wneud newidiadau bach yn ein cartrefi a’n ffyrdd o fyw, a gyda’i gilydd gall y rhain wneud gwahaniaeth mawr.
Dyma syniadau am newidiadau sy’n garedig i’ch poced ond heb gymryd llawer o amser, ac sydd yn cyfrannu at greu cartref a ffordd o fyw mwy cynaliadwy.
1. Golchwch Eich Dillad Mewn Dŵr Oer
Mae hyd at 90% o’r ynni a ddefnyddir gan beiriant golchi yn mynd i gynhesu dŵr, felly defnyddiwch eich peiriant golchi ar y gosodiad dŵr oer. Yn ogystal â lleihau allyriadau CO2, byddwch hefyd yn cadw’ch dillad mewn cyflwr da yn hirach. Os ydych yn teimlo nad yw’r gosodiad dŵr oer yn effeithiol yn golchi staeniau anodd, defnyddiwch y gosodiad cynnes – mae’n dal i arbed ynni.
2. Peidiwch â Defnyddio’r Peiriant Sychu Dillad Mor Aml
Bydd eich dillad a’ch dillad gwely’n para’n hirach wrth eu hongian y tu allan yn lle eu sychu yn y peiriant sychu dillad. Os nad oes gennych ardd neu fan tu allan, gallech ddefnyddio rhesel sychu a chadw’r ffenestri ar agor fel y bydd yr haul yn sychu eich dillad yn gyflymach.
3. Trwsiwch neu Ailddefnyddiwch yn lle Prynu Pethau Newydd
Pam fyddech chi’n prynu o’r newydd pan allwch atgyweirio neu ailddefnyddio? Mae Caffi Trwsio Pen-y-bont ar Ogwr yma i siarad â chi am weithdai atgyweirio. A gallech fynd i apiau Freecycle a Freegle sy’n fudiadau nid-er-elw lle mae pobl yn rhoi ac yn derbyn pethau am ddim yn eu hardaloedd lleol, yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch aelodi am ddim. Mae adran Freebies Gumtree yn gweithio’n debyg iawn i Freecycle hefyd.
4. Newidiwch Fylbiau Golau Arferol am Fylbiau LED
Mae prynu’r bylbiau golau cywir sy’n arbed ynni yn gwneud byd o wahaniaeth. Mae bylbiau LED yn para’n hirach, yn defnyddio llai o ynni felly’n ecogyfeillgar, ac maen nhw’n helpu i arbed arian yn y tymor hir.
5. Defnyddiwch Thermostat Rhaglenadwy
Ewch yn wyrdd trwy osod thermostat rhaglenadwy. Gall leihau cost eich bil cyfleustodau a gwneud eich cartref yn fwy ecogyfeillgar ar yr un pryd.
6. Gwnewch yn Siŵr Eich Bod yn Defnyddio Bin Ailgylchu a Bin Compost
Os oes gennych fin ailgylchu, byddwch yn fwy ymwybodol ynglŷn ag ailgylchu poteli gwydr, jariau, papur, ac eitemau eraill a ddylai gael eu hailgylchu. Bydd eich bin compost yn eich helpu i gael gwared â bwyd dros ben ac yn rhoi compost i chi i’w ddefnyddio ar eich planhigion. Erbyn heddiw, mae biniau compost yn dwt, yn daclus, ac yn ddiarogl.
7. Potiau o Aer!
Mae planhigion mewn potiau yn effeithiol ar gyfer glanhau’r aer yn ein cartrefi ac maen nhw’n gwneud i ni deimlo’n dda. Neu plannwch ardd berlysiau. Dydy perlysiau ddim yn mynd â llawer o le. Gallwch eu plannu mewn potiau bach a’u cadw yn y tŷ, yn agos at ffenestr heulog. Iach a blasus!
8. Peniog gyda’ch Paned
Peidiwch â llenwi a berwi’r tegell gyda mwy o ddŵr na’r angen. Mae gan y tegelli arbed ynni gorau linell isel ar gyfer y swm lleiaf o ddŵr, ac maen nhw’n diffodd yn gyflym ar ôl berwi. Digennwch eich tegell yn rheolaidd. Os yw’n llawn calch, rydych yn defnyddio mwy o ynni i ferwi’r un faint o ddŵr.
9. Gwastraffwch Lai o Bwyd
Mae gwastraff bwyd yn broblem fawr yn y DU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lleihau gwastraff bwyd trwy gynllunio prydau a storio bwyd yn gywir. Gallwch hefyd ymuno â’r mudiad i leihau gwastraff bwyd trwy gofrestru ar yr ap Too Good To Go. Drwy hwn, gallwch brynu a chasglu bwyd dros ben o’ch hoff fwytai, caffis a siopau – am bris da – fel y bydd yn cael ei fwyta yn lle ei wastraffu.
10. Defnyddiwch Eitemau Bioddiraddadwy neu Ailgylchadwy
Rydych chi eisiau i declynnau ac offer coginio, ac eitemau eraill yn eich cegin bara. Ond pan ddaw’r amser i’w newid, rydych eisiau gallu eu hailgylchu. Pa bryd bynnag y gallwch, osgowch blastig a dewis deunydd bioddiraddadwy fel pren, bambŵ neu ddur gwrthstaen.
11. Prynwch Offer Cegin sy’n Effeithlon o ran Ynni.
Gall offer cegin ddefnyddio tipyn o ynni yn eich cartref, felly arbedwch arian yn y tymor hir trwy brynu offer cegin sy’n arbed ynni.
12. Defnyddiwch Dywelion Cegin Ailddefnyddiadwy
Mae tywelion cegin ailddefnyddiadwy yn ddewis rhagorol yn lle tywelion papur. Gallwch eu defnyddio dro ar ôl tro drwy eu golchi, a byddant yn para’n hir cyn fod angen eu taflu.
13. Defnyddiwch Gynwysyddion Storio Gwydr
Ble bo modd, defnyddiwch gynwysyddion storio gwydr ar gyfer eitemau bwyd ac ati yn eich cegin. Maen nhw’n gyfleus oherwydd gallwch eu rhewi, a gallwch roi rhai yn y ficrodon hefyd.
14. Defnyddiwch Ecogynhyrchion i Lanhau’r Tŷ
Mae llawer o gynhyrchion glanhau cyffredin yn cynnwys cemegion sy’n niweidio’r amgylchedd, fel glanedyddion, cadwolion, neu gyfryngau llawndrochi. Dewiswch gynhyrchion heb gynhwysion synthetig os ydych eisiau prynu cynhyrchion cartref ecogyfeillgar.
15. Defnyddiwch Bapur Tŷ Bach Ecogyfeillgar
Mae llawer o goed yn cael eu torri er mwyn gwneud rholiau papur tŷ bach ac mae’r person cyfartalog yn defnyddio 100 o roliau’r flwyddyn. Mae papur tŷ bach bambŵ yn ddewis llawer mwy cynaliadwy, gan fod bambŵ yn tyfu 39 modfedd mewn cyfnod o 24 awr.
16. Defnyddiwch Botel Ddŵr Ecogyfeillgar Ailgylchadwy
Mae llawer o boteli dŵr plastig yn glanio yn y cefnfor a bydd un botel blastig yn torri i lawr yn 10,000 o ddarnau microblastig gydag amser – mae’r llygredd microblastig hwn yn anhygoel o anodd ei waredu. Ateb da yw prynu potel ddŵr sydd nid yn unig yn ailddefnyddiadwy ond hefyd o’r maint cywir, fel y gallwch fynd â hi pan fyddwch yn mynd o gwmpas.
17. Defnyddiwch Siampŵ Ecogyfeillgar
Yn union fel y cynhwysion mewn cynhyrchion glanhau, mae siampŵ a chyflyrydd arferol hefyd yn cynnwys cynhwysion sy’n llifo i’r draen ac yn glanio yn y cefnfor, ac mae llawer ohonynt yn niweidiol i natur. Ceisiwch ddewis cynhwysion naturiol wrth siopa am siampŵ. Ac yn well fyth, osgowch boteli plastig a dewis barrau o sebon naturiol sy’n addas ar gyfer gwallt.
18. Prynwch Geir Ecogyfeillgar yn lle Ceir Diesel a Phetrol
Ceir diesel a phetrol yw’r prif dramgwyddwyr o ran allyriadau CO2 ac maent yn cyfrannu’n sylweddol at gynhesu byd-eang. Ystyriwch newid eich car petrol am un trydan pan ddaw’r amser. Yn y cyfamser beth am arbed arian ar danwydd drwy drefnu rhannu ceir, neu ceisiwch rannu car gyda rhieni eraill wrth hebrwng plant yn ôl a blaen i’r ysgol. Mae Liftshare a Gocarshare yn apiau rhannu reidiau. Mae BlaBlaCar yn gweithio drwy gysylltu gyrwyr sy’n mynd i gyrchfannau poblogaidd fel meysydd awyr neu ddinasoedd â’r rhai sydd angen lifft. Neu beth am fynd cam ymhellach – yn lle teithio mewn car, beth am gerdded neu feicio.
19. Prynwch Lai o Ffasiwn Cyflym, a Mwy o Frandiau Cyfrifol
Mae effeithiau niweidiol dillad ffasiwn cyflym ar yr amgylchedd yn aruthrol. Mae dillad yn y categori hwn yn cael eu cynhyrchu a’u taflu mewn meintiau anferth, a gall rhai ffibrau synthetig, fel polyester, gymryd hyd at 200 mlynedd i ddadelfennu. Mae ffibrau synthetig yn diosg microblastig pan gânt eu golchi, gan lanio yn y cefnforoedd a mynd i mewn i’r gadwyn fwyd. Gwyliwch pa fath o ddillad a brynwch – o ba decstilau maent wedi’u gwneud, a chwiliwch am gwmnïau sydd wedi addo lleihau eu hallyriadau a’u llygredd dŵr wrth gynhyrchu dillad.
20. Stopiwch Ddefnyddio Gwellt Plastig Untro
Mae dros 8.3 biliwn tunnell o wellt plastig yn y byd – nid yw’r rhan fwyaf yn cael eu hailgylchu a gallant gymryd hyd at 200 mlynedd i ddadelfennu. Prynwch welltyn bambŵ neu fetel sy’n ailddefnyddiadwy. Mae’r DU wedi cadarnhau gwaharddiad ar wellt plastig untro fel rhan o’r Cynllun Amgylchedd 25 Mlynedd. Yn y cyfamser os ydych yn prynu diod, dywedwch wrth y gweinyddwr nad ydych eisiau’r gwelltyn yn eich diod os yw’n un plastig.
21. Bwytewch Lai o Gig
Mae cig a chynhyrchion llaeth yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr (NTG) a’r defnydd o dŵr yn y diwydiant amaethyddiaeth. Gall bwyta llai o gig gael effaith mawr ar hyn.
22. Datgysylltwch y Plygiau cyn Mynd i Ffwrdd
Hyd yn oed pan fod dyfeisiau electronig wedi’u diffodd neu yn y modd cwsg, maen nhw’n dal i ddefnyddio ynni. Mae pob aelwyd yn y DU yn gwario rhwng £50 a £86 y flwyddyn ar bweru teclynnau a adewir yn y modd segur neu nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, cyn mynd ar eich gwyliau, cofiwch ddatgysylltu plygiau eich dyfeisiau o’r socedi wal, er mwyn arbed trydan.