Rydym yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i helpu i atal damweiniau yn y cartref a achosir gan dân.

Profi eich larwm mwg bob wythnos

Bydd gennych larwm mwg a bwerir gan drydan yn eich cartref.

Ni ddylech ymyrryd â gweithrediad eich larwm mwg.

Gallwch brofi eich larwm drwy wasgu’r botwm mawr yn y canol, neu efallai bydd gennych switshis ar y wal gyda botwm prawf.

Beth am ddewis ‘profi dydd Mawrth’ – i wneud yn siŵr eich bod yn cofio profi eich larymau prawf tân bob wythnos, ewch i’r arfer o’u profi bob dydd Mawrth.

Os nad ydych yn credu bod eich larwm yn gweithio'n iawn, ffoniwch ni ar unwaith
ar 0300 123 2100.

Cadwch ardaloedd cymunedol yn glir

Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau tân, rhaid cadw ardaloedd cyffredin (fel mynedfeydd i floc o fflatiau) yn glir bob amser gan sicrhau nad yw llwybrau dianc yn cael eu rhwystro, ac nad oes unrhyw beryglon tân.

Rydym yn cynnal gwiriadau misol i sicrhau bod y mannau cymunedol yn cael eu cadw’n lân ac yn glir. Os canfyddir eitemau mewn ardaloedd cyffredin, byddwn yn rhoi cyfle i’r perchennog eu tynnu’n gyntaf, ond rydym yn cadw’r hawl i waredu unrhyw eitemau nad ydynt yn cael eu tynnu sy’n achosi rhwystr. Os byddwn yn gwaredu unrhyw eitem(au), efallai y codir tâl arnoch am y gost neu gallai gynyddu eich taliadau gwasanaeth.

Atal tanau: coginio, E-sgwteri a chyngor diogelwch tân arall

Coginio – gair i gall

Mae dros hanner y tanau damweiniol mewn cartrefi yn dechrau wrth goginio – yn aml pan fod poptai a griliau’n cael eu gadael ymlaen heb neb yno.

Sut i goginio’n ddiogel:

Gwnewch yn siŵr nad yw handlenni sosbannau’n gwthio allan, rhag ofn idddynt gael eu bwrw oddi ar y stof.

Peidiwch â gadael eitemau ar yr hob gan y gall hyn achosi tân.

Cymerwch ofal os ydych yn gwisgo dillad llaes – gallant fynd ar dân yn hawdd.

Peidiwch â gadael llieiniau sychu llestri a chlytiau yn agos i’r cwcer a’r hob gan y gallant fynd ar dân yn hawdd.

Cadwch anifeiliaid draw oddi wrth y cwcer gan y gallant droi switshis ymlaen yn ddamweiniol a dymchwel sosbenni.

Peidiwch â gadael plant yn y gegin ar eu pen eu hun pan fod bwyd yn coginio ar yr hob.

Peidiwch fyth â gadael pedyll heb eu goruchwylio pan fyddwch yn coginio.

Ailwiriwch fod y cwcer wedi’i ddiffodd ar ôl i chi orffen coginio.

Defnyddiwch ddyfeisiau gwreichion bob amser i gynnau poptai nwy – maen nhw’n saffach na matsis neu danwyr.

Cadwch y ffwrn, yr hob a’r gril yn lân ac mewn cyflwr gweithio da. Gall croniad o fraster a saim achosi tân.

Peidiwch fyth â defnyddio barbeciw yn y tŷ neu ar falconi.

Diogelwch ffrïwyr aer

Cadwch y ceblau pŵer draw oddi wrth arwynebau poeth.

Diffoddwch y ffriwr aer wrth y soced pan nad yw’n cael ei ddefnyddio. Gwnewch yn siŵr bod y ffriwr aer yn sefyll ar wyneb gwastad lle na all gael ei fwrw oddi ar y cownter yn ddamweiniol.

Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser wrth ddefnyddio eich ffriwr aer

Cadwch lygad ar eich ffriwr aer pan fyddwch yn ei ddefnyddio – os byddwch yn clywed gwynt llosg neu unrhyw synau anarferol yn dod o’ch peiriant, diffoddwch ef ar unwaith a chysylltu â’r gwneuthurwr.

Arhoswch o leiaf 30 munud bob amser cyn ei lanhau ar ôl ei ddefnyddio.

Peidiwch â

Rhoi olew yn eich ffriwr aer.

Trochi eich ffriwr mewn dŵr – gall hyn gynyddu’r risg o siortio’r ddyfais pan fyddwch yn ei throi ymlaen eto, neu os oes dŵr mewn cysylltiad â’r ddyfais o hyd pan gaiff ei defnyddio eto, mae risg cynyddol o sioc drydanol.

Gorlenwi eich ffriwr aer – fel rheol ni ddylai fod yn fwy na dwy ran o dair yn llawn.

Plygio eich dyfais i mewn i lîd estyn gan fod perygl o orlwytho’r soced.

Ffrio dwfn

Cymerwch ofal wrth goginio gydag olew poeth – mae’n mynd ar dân yn hawdd.

Gwnewch yn siŵr bod bwyd yn sych cyn ei roi mewn olew poeth i osgoi olew yn tasgu.

Os yw’r olew’n dechrau mygu, mae’n rhy boeth – diffoddwch y gwres a gadael iddo oeri.

Defnyddiwch ffriwr dwfn trydan â rheolaeth thermostatig. Ni all y rhain orboethi.

Beth i’w wneud os yw padell yn mynd ar dân

Peidiwch â chymryd unrhyw risgiau – diffoddwch y gwres os yw’n ddiogel gwneud hynny. Peidiwch fyth â thaflu dŵr drosti

Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun – Ewch Allan, Arhoswch Allan, Ffoniwch 999.

Awgrymiadau atal tân cyffredinol

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gall y batris ïon lithiwm mewn E-feiciau ac E-sgwteri achosi tân a ffrwydradau. Darllenwch eu cyngor yma.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd sigaréts yn iawn a pheidio â’u gadael ynghyn. Peidiwch ag ysmygu yn y gwely, defnyddiwch flwch llwch addas bob amser, a chymerwch ofal wrth ysmygu os ydych wedi blino neu dan ddylanwad alcohol neu feddyginiaeth.

Peidiwch fyth â gorlwytho socedi trydanol, neu blygio un lîd estyn i mewn i un arall.

Gwiriwch fod eich offer trydan mewn cyflwr gweithio da – os yw gwifrau wedi treulio neu ddifrodi, peidiwch â’u defnyddio.

Dylai offer fel peiriannau golchi a pheiriannau sychu dillad gael plwg ar wahân gan eu bod yn defnyddio llawer o bŵer.

Diffoddwch offer pan nad ydych yn eu defnyddio, a pheidiwch â’u gadael
yn y modd segur. Dad-blygiwch offer cyn i chi fynd allan neu i gysgu.

Cymerwch ofal wrth ddefnyddio meddalwyr croen – gallant socian i ddillad
gwely, dillad, a gorchuddion, gan adael gweddill fflamadwy.

Cadwch fatsis a thanwyr allan o gyrraedd a golwg plant.

Rydym yn cynghori yn erbyn defnyddio canhwyllau, ond os gwnewch, rhaid gwneud yn siŵr eu bod mewn cynhwysydd addas ac i ffwrdd oddi wrth ddrafftiau a deunyddiau allai fynd ar dân, fel llenni. Peidiwch â rhoi canhwyllau ar wynebau plastig, peidiwch fyth â symud canhwyllau pan fyddant ynghyn, a diffoddwch nhw cyn mynd allan neu i gysgu. Ni ddylech fyth adael plant ac anifeiliaid anwes ar eu pen eu hun gyda chanhwyllau neu fatsis.

Peidiwch â gadael peiriannau sychu dillad ymlaen pan fyddwch yn cysgu neu’n mynd allan, a gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau’r lint sy’n cronni’n rheolaidd am y gall hwn fynd ar dân.

Defnyddiwch ddyfeisiau gwreichion bob amser i gynnau poptai nwy (maent yn saffach na matsis neu danwyr).

Peidiwch â cheisio gwneud unrhyw newidiadau i system drydanol eich cartref. Mae hyn yn anghyfreithlon, ond hefyd mae’n risg tân.

Peidiwch â gwneud newidiadau i’ch cartref heb ofyn am ganiatâd gennym. Fel arall, gallech dynnu drws neu wal graddfa dân.

Caniatewch i ni gyrchu eich system wresogi yn flynyddol, a’r holl wasanaethau eraill allai fod yn eich cartref. Mae hyn yn ofynnol yn gyfreithiol a bydd yn helpu i leihau’r risg o dân.

Peidiwch fyth â defnyddio gwresogyddion i sychu dillad, a chadwch wresogyddion draw oddi wrth ddillad, llenni, dodrefn a deunyddiau fflamadwy.

Peidiwch â storio hylifau neu ddeunyddiau fflamadwy diangen yn eich cartref, neu mewn mannau cymunol (yn cynnwys gerddi).

Os ydych yn defnyddio ffresnydd aer plygio i mewn, gwnewch yn siŵr nad ydych yn ei ddefnyddio pan nad oes hylif ar ôl ynddo gan y gall orboethi a dechrau tân.

Cyn i chi fynd i gysgu

● Caewch yr holl ddrysau i osgoi’r posibilrwydd y bydd tân yn lledaenu.

● Diffoddwch a dad-blygiwch yr holl ddyfeisiau ac eitemau trydan anhanfodol, yn cynnwys setiau teledu.

● Diffoddwch ganhwyllau a gwiriwch fod eich gwresogyddion a’ch cwcerau wedi diffodd.

● Peidiwch â gwefru dyfeisiau pan fyddwch yn cysgu.

I gael mwy o wybodaeth am sut mae gwahanol fathau o danau’n dechrau a sut i’w hatal, bwriwch olwg ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 

Diogelwch tân ffenestri a drychau

Rhai blynyddoedd yn ôl, bu dau o’n tenantiaid mor anlwcus a chael tân drych yn eu cartref. Yn ffodus, ni chafodd neb niwed, ond mae’n atgof pwysig i wella eich gwybodaeth am ddiogelwch drychau.

Peidiwch â:

Peidiwch â chadw drychau harddwch chwyddo wrth ochr ffenestr am y gallant grynodi pelydrau’r haul, gan wneud i wrthrychau cyfagos (fel llenni, dillad, papur neu ddodrefn) fynd ar dân.

Gall pelydrau’r haul gael eu chwyddo gan lens neu ddrych chwyddo, felly mae’n beryglus gadael gwrthrychau gwydr, fel drychau chwyddo’n rhy agos at ffenestri.

Dylai unrhyw beth all grynodi pelydrau’r haul, fel powlenni pysgod neu wydrau o ddŵr, gael eu cadw draw oddi wrth ffenestri i leihau’r risg o achosi tân.

Cyngor diogelwch

Cadwch ddrychau chwyddo allan o olau haul uniongyrchol.

Peidiwch fyth â rhoi pwysau papur neu addurniadau gwydr ar silffoedd ffenestri.

Peidiwch fyth â gosod pwysau papur neu addurniadau gwydr mewn golau haul uniongyrchol.

Gwnewch yn siŵr nad yw drychau eillio neu goluro’n cael eu gadael ar silffoedd ffenestri.

Byddwch yn ymwybodol o wrthrychau yn eich cartref fel drychau eillio neu goluro, a phwysau papur neu addurniadau gwydr, a allai fod mewn golau haul uniongyrchol.

Drws Mynediad Fflatiau – Drysau Tân

Efallai bod drws mynediad eich Fflat yn ddrws tân. Mae’r drws hwn wedi’i ddylunio i wrthsefyll mwg a thân. Bydd y drws yn atal tân a mwg rhag lledaenu i’r coridor os oes tân mewn fflat, a bydd hefyd yn stopio gwres a mwg o dân coridor rhag dod i mewn i’ch fflat.

Dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

● Mae’n hanfodol bod dyfais hunan-gau ar eich drws tân prif fynediad – rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os nad oes un neu nid yw’n gweithio fel y gallwn ei hatgyweirio

● Os yw tân yn digwydd, caewch ddrws tân mynediad eich eiddo ar eich hôl wrth i chi ddianc

● Ni chewch newid eich drws tân neu wneud unrhyw newidiadau i’ch drws tân. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu tyllau ysbïo ac/neu gamerâu ac ati

● Peidiwch â dal drysau tân ar agor

● Bydd angen archwiliadau ar eich drws tân. Byddwn yn anfon llythyr atoch pan ddaw
amser eich apwyntiad – rhowch fynediad i ni fel y gallwn sicrhau bod eich drws yn
gweithio’n iawn

● Rhowch wybod i ni am unrhyw ddrws tân wedi’i ddifrodi neu ddiffygiol drwy ein ffonio ar 0300 123 2100

Drysau y tu mewn i’ch eiddo

Bydd pob drws yn eich eiddo yn darparu rhywfaint o ddiogelwch rhag tân, hyd yn oed os nad ydynt yn ddrysau tân dynodedig. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

● Caewch eich drysau yn y nos, yn enwedig drysau eich cegin ac ystafell fyw – bydd hyn yn dal tân yn ôl tra bo’ch chi’n dianc

● Peidiwch â drilio trwy eich drws neu ffrâm. Bydd hyn yn effeithio ar ei allu i atal tân a mwg

● Os ydy tân yn digwydd, caewch yr holl ddrysau wrth i chi ddianc, os yw’n ddiogel gwneud hynny

Drysau Tân mannau cymunol

Mae’r drysau tân yn y mannau cymunol yn diogelu grisiau a llwybrau dianc eraill rhag mwg.

● Peidiwch â dal y drysau hyn ar agor

● Os yw’r drws yn mynd yn ddiffygiol, rhowch wybod i Gymoedd i’r Arfordir fel y gallwn ei drwsio

● Os gwelwch fod drws tân diffygiol ar eiddo arall yn yr adeilad, rhowch wybod i ni ar 0300 123 2100

Beth ddylwn i ei wneud os oes tân yn fy nghartref?

Cynlluniwch lwybr dianc argyfwng ymlaen llaw, a gwnewch yn siŵr bod pawb yn eich cartref yn gwybod amdano.

Gwnewch yn siŵr bod pob allanfa’n glir.

Cadwch allweddi drysau a ffenestri mewn man lle gall pob aelod o’ch cartref eu ffeindio.

Beth i’w wneud yn achos tân:

Gadewch eich eiddo bob amser os yw wedi’i effeithio gan fwg neu wres, neu fod aelod o’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn dweud wrthych am wneud.

Peidiwch â chynhyrfu a gweithredwch yn gyflym i symud pawb allan o’r adeilad cyn gynted â phosibl.

Peidiwch â cheisio ymchwilio i’r sefyllfa eich hun.

Cyn agor drws, gwiriwch a yw’r handlen yn gynnes. Os ydy, peidiwch â’i agor oherwydd mae’n debyg bod tân ar yr ochr arall.

Os dewch ar draws mwg, plygwch yn isel lle mae’r aer yn lanach.

Peidiwch fyth â thaclo tanau eich hun – gadewch hyn i’r gweithwyr proffesiynol.

Os oes yna dân, defnyddiwch y grisiau i gyrraedd y llawr gwaelod bob amser wrth adael yr adeilad – ac nid lifft.

Peidiwch â gadael eich eiddo neu sbwriel mewn coridorau neu ger y grisiau. Gallai hyn effeithio arnoch chi a’ch cymdogion os oes tân.

Ffoniwch 999 cyn gynted ag y byddwch yn glir ac yn saff.

Peidiwch â’ch rhoi eich hun mewn perygl. Peidiwch â mynd nôl i’ch fflat nes bod rhywun yn dweud ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

EWCH ALLAN, ARHOSWCH ALLAN, a Ffoniwch 999

Mwy o adnoddau

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae gwahanol danau yn dechrau a sut i’w hatal ewch i wefan Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i wneud yn siŵr nad ydych yn gorlwytho eich socedi – https://www.electricalsafetyfirst.org.uk//guidance/safety-around-the-home/overloading-sockets/

Gwiriwch a ydy unrhyw rai o’ch dyfeisiau wedi cael eu hadalw oherwydd risg tân – https://www.electricalsafetyfirst.org.uk/