Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cartref sy’n ddiogel ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, lle gallwch deimlo’n ddiogel ac yn hapus.
Yn unol â rhaglen newydd Llywodraeth Cymru, rydym yn newid ein ffordd o arolygu eich cartref, gan gynnal arolygon cynhwysfawr sydd â’r nod o wella cyflwr ac effeithlonrwydd ynni ein meddiannau.
Beth fydd Arolwg Cartref Cyfan yn ei olygu i chi?
Bydd yr Arolwg Cartref Cyfan yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni, ac i chi, am sut mae eich cartref yn gweithredu.
Gall y broses amlygu meysydd a allai fod angen gwaith cynnal a chadw, a chanfod peryglon posibl a fydd yn caniatáu i ni gynllunio gwelliannau ar gyfer y dyfodol.
Mae’n helpu i ganfod mannau lle gallai ynni fod yn cael ei wastraffu, awgrymu gwelliannau a all ostwng biliau gwasanaethau a’r ôl-troed carbon, gan ein helpu ar ein taith #ByddwchWyrdd.
Byddwch yn gallu gweld y TPY (Tystysgrif Perfformiad Ynni) diweddaraf ar ôl i’r Arolwg Cartref Cyfan gael ei gwblhau ‒ bydd yn rhoi manylion effeithlonrwydd ynni eich cartref.
Beth fyddwn ni’n ei wneud mewn arolwg cartref cyfan?
Wrth gynnal asesiad perfformiad ynni llawn, byddwn yn gwirio cyflwr y tu mewn yn ogystal â’r tu allan i’ch cartref, a allai gymryd hyd at 2 awr i’w gwblhau.
Mae’r eitemau y byddwn fel arfer yn eu profi a’u harolygu yn cynnwys:
Byddwn yn gwirio cyflwr y tu mewn yn ogystal â’r tu allan i’ch cartref, gan gynnwys:
- Toeau
- Waliau
- Ffenestri a drysau
- Ffensys
- Llwybrau
- Ceginau
- Ystafelloedd ymolchi
- Llofftydd
- Systemau gwresogi
- Gwifrau trydanol
- Inswleiddio
Byddwn ni yn mesur pa mor effeithlon yw eich cartref, gan ystyried pethau fel faint mae’n ei gostio i wresogi eich cartref, a faint o garbon deuocsid y mae eich cartref yn ei gynhyrchu.
Gyda’r wybodaeth hon gallwn wneud argymhellion a fydd yn arbed arian i chi ac yn gwneud eich cartref yn fwy cyfeillgar i’r blaned.
Mae ôl-osod yn golygu gwella adeilad i’w wneud yn fwy ynni-effeithlon, gan arbed arian i chi a lleihau’r effaith ar y blaned.
Byddwn yn archwilio eich cartref i weld pa newidiadau y gallem eu gwneud i wneud y gorau o’ch cartref. Gallai hyn gynnwys pethau fel inswleiddio, gwresogi trydan, a mwy.
Sut allwch chi helpu?
Byddwn yn trefnu apwyntiad i gynnal yr arolwg, felly byddwch ar gael ar y dyddiad a’r amser y cytunwyd arno, neu trefnwch fod oedolyn arall (dros 18 oed) yn rhoi mynediad i ni i’ch cartref.
Os nad ydych chi – neu oedolyn arall – yn gallu mynychu eich apwyntiad mwyach, trefnwch ad-drefnu am ddiwrnod ac amser pan fyddwch ar gael.
Gwnewch yn siŵr bod modd cyrraedd yr holl ystafelloedd yn eich cartref, y llofft a’r mannau awyr agored yn hawdd ar ddiwrnod eich arolygiad.
Beth sy’n digwydd os oes problem?
Os nodir unrhyw atgyweiriadau sy’n gysylltiedig â diogelwch yn ystod yr arolwg, byddwn yn rhoi gwybod i’n hadran atgyweiriadau a fydd yn trefnu i’r gwaith atgyweirio gael ei wneud ar ddiwrnod ac amser sy’n gyfleus i chi.