Cyngor ar stormydd

Pum peth i’w gwneud cyn i’r storm ddechrau:

● Clymwch eitemau rhydd fel ysgolion a dodrefn gardd a allai gael eu chwythu yn erbyn ffenestri neu wydr
● Caewch yr holl ddrysau, ffenestri a chaeadau storm yn dynn
● Parciwch eich car i ffwrdd oddi wrth adeiladau, coed, waliau a ffensys
● Caewch drapddorau llofft yn dynn gan ddefnyddio bolltau
● Os ydy cyrn simnai yn uchel ac mewn cyflwr gwael, symudwch unrhyw welyau oddi wrth y mannau sy’n syth oddi tanynt

Yn ystod y storm…

● Arhoswch yn y tŷ os gallwch
● Os oes rhaid i chi fynd allan, peidiwch â cherdded neu gysgodi yn agos at adeiladau neu goed, a chadwch draw oddi wrth ochr gysgodol waliau terfyn a ffensys
● Peidiwch â mynd allan i drwsio difrod tra bod y storm yn dal wrthi
● Os gallwch, ewch i mewn ac allan o’ch tŷ trwy ddrysau ar yr ochr gysgodol, a’u cau ar eich ôl.
● Peidiwch ag agor drysau mewnol oni bai fod angen, a’u cau’n gyflym
● Peidiwch â gyrru oni bai fod rhaid, a byddwch yn ofalus dros ben. Osgowch ffyrdd digysgod fel pontydd a ffyrdd agored uchel, arafwch, a byddwch yn ymwybodol o groeswyntoedd.

Ar ôl y storm:

● Peidiwch â chyffwrdd ceblau trydanol/ffôn sydd wedi’u chwythu i lawr neu sy’n dal i hongian
● Peidiwch â cherdded yn rhy agos at waliau, adeiladau a choed gan y gallent fod wedi’u gwanhau
● Gwnewch yn siŵr bod unrhyw gymdogion neu berthnasau sy’n agored i niwed yn ddiogel a helpwch nhw i wneud trefniadau ar gyfer unrhyw waith atgyweirio

Cewch ragor o gyngor gan y Swyddfa Dywydd.

Eira ac iâ: sut i gadw’n ddiogel yn eich cartref

Os oes rhagolygon am eira ac iâ, y dewis mwyaf diogel yw aros gartref yn gynnes ac yn glud.

Cyn cwymp eira

Gallech gael eich bod heb gyflenwadau os ydych yn cael eich ynysu gan eira, felly ceisiwch gadw stoc o’r canlynol:

● Tortshys a batris, canhwyllau a matsis
● Blancedi a haenau o ddillad ysgafn, llac
● Bwyd
● Pecyn pŵer ffôn symudol

Cadw’n ddiogel os ydych yn sownd yn y tŷ:

● Cadwch y thermostat ar yr un tymheredd, ddydd a nos
● Diffoddwch wresogyddion trydan a diffoddwch eich tân cyn mynd i’r gwely
● Ataliwch beipiau rhag rhewi trwy agor drysau cypyrddau cegin ac ystafell ymolchi fel y gall aer cynhesach gylchdroi
● Peidiwch fyth â defnyddio hob neu ffwrn i gynhesu eich cartref gan y gallant gynyddu’r lefelau o garbon monocsid
● Parhewch i wirio’r rhagolygon, gan y gall rhybuddion tywydd newid yn gyflym

Ffyrdd syml o gefnogi perthnasau neu gymdogion sy’n agored i niwed

● Gwiriwch a oes angen cymorth ymarferol arnynt
● Gwnewch yn siŵr bod ganddynt ddigon o fwyd a moddion rhag ofn na allant fynd allan
● Helpwch i glirio’u llwybr ar ôl cwymp eira

Beth ddylwn i ei wneud os oes toriad pŵer?

● Diffoddwch yr holl offer trydan na ddylid eu gadael ymlaen heb neb yno
● Gadewch switsh golau ymlaen fel y byddwch yn gwybod pan fod y toriad pŵer wedi’i drwsio
● Gofynnwch i’ch cymdogion a oes ganddyn nhw doriad pŵer hefyd. Os oes ganddyn nhw bŵer, efallai bod eich torrwr cylched wedi’i droi ymlaen
● Gwisgwch ddillad cynnes, caewch y drysau mewnol neu defnyddiwch wresogydd symudol i gael gwres
● Ffoniwch 105 am wybodaeth a chyngor am ddim

Ar ôl eira neu iâ

Cliriwch eich llwybrau a gwasgarwch halen. Gallwch ddefnyddio halen bwrdd cyffredin neu halen peiriant golchi llestri – un llwy fwrdd ar gyfer pob metr sgwâr rydych chi eisiau ei glirio
● Cymerwch ofal wrth rawio eira gan ei bod yn fwy anodd gweithio ac anadlu pan fod yr aer yn oer
● Cymerwch ofal wrth gerdded neu yrru ar eira wedi’i gywasgu – efallai y bydd wedi troi’n iâ