Mae gennym ran bwysig i’w chwarae yn ein cymunedau. Rydyn ni eisiau creu lleoedd, gan weithio gyda phobl i sicrhau bod cymdogaethau’n ddiogel, yn ddeniadol ac wedi’u cysylltu’n dda. Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid fel y gallwn gael yr effaith mwyaf.
Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod amrywiaeth o bartneriaid, rhwydweithiau preswylwyr a rhanddeiliaid yn ein cymunedau’n barod sy’n dymuno gweithio gyda ni i fwyhau’r cyfleoedd i helpu ein cymunedau i ffynnu a bod yn gynaliadwy.
Ein nod yw gweithio gyda’n cwsmeriaid a’n partneriaid cymunedol i wneud y gorau o effaith amgylcheddol cadarnhaol ein mannau agored – gan greu mannau allanol sy’n cael eu gwerthfawrogi gan ein cymunedau ac sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn gweithio’n barod gyda sefydliadau fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cadwch Gymru’n Daclus, Cyfoeth Naturiol Cymru, Buglife and Plantlife Cymru a Grwpiau Cymunedol i hybu bioamrywiaeth ar draws ein stadau.
Mae’r enghreifftiau’n cynnwys ardal beilot Magnificent Meadows Cymru, lle rydym yn torri gwair yn llai aml, a’r gwelliant yn y fioamrywiaeth ym Mhwll y Waun a Wildmill. A’r ardd gymunedol ym Man Gwyrdd Marlas, a enillodd wobr genedlaethol Cyfranogiad Cymunedol TPAS, Gwobr Arwyr Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a Gwobr Ddinasyddiaeth y Maer.
A’r haf hwn, rydym yn gweithio gyda Gwasanaethau Eiddo ASW i ddod o hyd i’r gerddi, lleoedd a mannau agored gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan arddangos gwaith caled ein cwsmeriaid a’n preswylwyr lleol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ein cymdogaethau.
Rydym yn eistedd ar Bartneriaeth Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, y Grŵp Llywio Cysylltiadau Gwyrdd, ac Is-grŵp Asedau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn yn rhwydwaith cydweithredol sy’n cydweithio ar fentrau gwyrdd fel y Pecyn Cymorth Rhagnodi Cymdeithasol, Lles Ar Garreg Eich Drws, gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Rydym hefyd yn rhan o Rwydwaith Natur Cwm Taf a’r gwasanaeth datblygol, Natur Naturiol i Gymru.
Mae’r mentrau hyn yn cefnogi Cynllun Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2023 a Nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.