Mae’n bwysig i ni ein bod yn darparu cartrefi sy’n gynnes, yn ddiogel ac yn fforddiadwy i’w rhedeg – cartrefi sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni eisiau tyfu i gwrdd â’r anghenion o ran tai, ac i sicrhau bod gan ein holl gwsmeriaid gartref maen nhw’n falch o fyw ynddo.
Mae pedwar piler ein cynllun cynaliadwyedd yn canolbwyntio ar:
- Ddatgarboneiddio (Di-garbon)
- Effeithlonrwydd adnoddau (Sero wastraff)
- Bioamrywiaeth (Amgylchedd naturiol adferedig a llewyrchus)
- Gwytnwch (Addasu i hinsawdd newidiol ac anwadal)
Mae lleihau faint o ynni sydd ei angen i fyw yn ein cartrefi yn allweddol i’n gweithgareddau datgarboneiddio. Trwy sicrhau bod ein cartrefi mor effeithlon â phosibl o ran ynni, byddwn hefyd yn cyfrannu at iechyd a lles ein cwsmeriaid, ac yn helpu i ddiogelu cwsmeriaid rhag llawn effaith y codiadau sylweddol yng nghostau ynni.
Rydyn ni’n sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth ar statws presennol ein cartrefi, fel y gallwn gynllunio’r ffordd orau o’u gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni a chael yr effaith mwyaf. Ac rydyn ni’n blaenoriaethu’r newidiadau sydd â’r effaith mwyaf er mwyn sicrhau bod cyllidebau yn mynd ymhellach, yn gyflymach.
Rydyn ni’n cynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi newydd a’n cynlluniau datblygu, ac yn chwilio am ffyrdd o gael arian a grantiau ychwanegol ar gyfer mesurau arbed ynni.
Gan fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon gan 78% i gymharu â lefelau 1990, amcangyfrifir y bydd angen ôl-osod ynni isel mewn dros 20 miliwn o gartrefi yn y DU i’n galluogi i fyw a gweithio’n fwy cynaliadwy.
Gall mesurau fel ôl-osod ac inswleiddio waliau allanol wneud gwahaniaeth mawr, nid yn unig wrth helpu’r amgylchedd drwy leihau colli gwres a’r defnydd o ynni, ond hefyd drwy eich cadw’n iach ac yn gynnes, gostwng biliau tanwydd yn sylweddol, a diogelu rhag prisiau tanwydd sy’n saethu i fyny.