Ymdrechwn i’ch rhoi chi, y cwsmer wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, trwy wrando, gwerthfawrogi a gweithredu ar eich barn. Fel cwsmer Cymoedd i’r Arfordir, bydd gennych brofiad uniongyrchol o’n gwasanaethau. Chi sy’n gwybod a yw pethau’n mynd yn dda, a beth allai fod yn well.
Cewch ddweud eich dweud am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn awr, cymryd rhan a’n helpu i’w gwella. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth
Beth yw ymgysylltu?
- Mae cymryd rhan yn ymwneud â chi, ein cwsmeriaid yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am y gwasanaethau sy’n effeithio arnoch chi, mewn ffordd sy’n hyblyg ac yn cynnig dewis.
- Gall fod mor syml ag y dymunwch iddo fod, dymunwn iddo gyd-fynd â’ch ffordd o fyw, yr amser sydd gennych i’w roi a’ch diddordebau eich hun. Byddwn yn eich cefnogi i gymryd rhan
Awn allan i’r gymuned yn rheolaidd i siarad â chi am wasanaethau, ac rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau hwyliog y gallwch gymryd rhan ynddynt! Y ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau sydd ar y gweill yw trwy ddilyn ein tudalen Facebook. Dilynwch ni yma.
Cwrdd â’n Tîm Ymgysylltu
Get involved!
Sign up to hear from our Customer Engagement Team when there are opportunities to get involved.