Dymunwn ddarparu lleoedd allanol y mae ein cwsmeriaid yn eu gwerthfawrogi ac sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr amgylchedd a lles ein cymunedau.
I wneud hyn, byddwn yn:
- Datblygu polisi rheoli ystadau i ddarparu mannau allanol sy’n cyfrannu at ein cwsmeriaid a’r amgylchedd .
- Sefydlu prosesau ar gyfer asesu’r defnydd posibl o bob man agored cyhoeddus fel chwarae a thyfu cymunedol, mewn partneriaeth â chymunedau lleol.
- Archwilio cyfleoedd i gynnwys ein cwsmeriaid â thaliadau gwasanaeth, gwaredu asedau, trosglwyddo asedau cymunedol a defnydd yn y cyfamser o dir.
- Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid a chwsmeriaid i hyrwyddo bioamrywiaeth ar draws ein hystadau.