Prentisiaethau
Yn unol â’n hamcan strategol i ddatblygu a chefnogi Cydweithwyr Diogel a Hapus, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth ledled y sefydliad. Ein nod yw darparu cyfleoedd i bobl sy’n dechrau yn eu gyrfaoedd a’r rheiny sy’n ceisio newid llwybr eu gyrfa neu uwchsgilio mewn maes gwahanol.
Rhaglen ddatblygu neu hyfforddi a gynlluniwyd i wella gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau yw prentisiaeth. Mae prentisiaid mewn cyflogaeth gyflogedig ac mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith (fel arfer â chymorth darparwr hyfforddiant trydydd parti). Fel arfer, bydd prentisiaethau yn para un i ddwy flynedd.
Caiff ein holl swyddi gwag ym maes prentisiaethau eu hysbysebu trwy ein gwefan. Cofrestrwch ar gyfer hysbysiadau swydd yma!
Ysgoloriaethau Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
Rydym yn gweithio’n agos â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi eu hysgoloriaeth sy’n cyflwyno cyfleoedd arloesol a rhyfeddol i ddatblygu llwybrau gyrfa myfyrwyr.
Cynigir ysgoloriaethau trwy Goleg Pen-y-bont ar Ogwr yn y meysydd canlynol:
- Adeiladu
- Creadigol
- STEM
- Arweinwyr Benywaidd
- Cymraeg
- Menter a Dechrau Busnes
Caiff yr ysgoloriaeth ei chynnig yn flynyddol ac mae’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn academaidd i fyfyrwyr fynd i mewn i’r gweithle ochr yn ochr â’u hastudio. Gallwch ddysgu mwy am raglen Ysgoloriaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yma.