Rydym wedi gweithio ag amrywiaeth o bartneriaid i gynyddu bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. O brosiectau peilot y ddôl, parthau dim torri gwair, i blannu 300 o goed yn y sir.
- Coed Cadw
- Prosiect Cysylltiadau Gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr
- Rhwydwaith Natur Cwm Taf
- Plantlife Cymru
Mannau Gwyrdd Cymunedol
Rydym yn gweithio’n agos â grwpiau cymunedol sy’n gweithio i wella eu mannau gwyrdd lleol.
Os ydych yn grŵp cymunedol ac yn pendroni sut y gallwn eich cefnogi, cysylltwch!
Mae Cymru Gynnes, cwmni buddiannau cymunedol cyntaf Cymru, yn gweithio i liniaru tlodi tanwydd yng Nghymru a’r De Orllewin trwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaethau.
Rydym yn falch iawn i gadarnhau y dyrannwyd gweithiwr cymorth cyngor ynni penodol i ni hyd fis Mehefin 2023, a’i rôl fydd gweithio â chwsmeriaid i ddarparu cyngor ynni, cymorth ac arweiniad o ran cynhesrwydd fforddiadwy.
Mae CDC yn ceisio lleihau allgau digidol yng Nghymru. Mae eu gwaith yn helpu i sicrhau bod pobl Cymru yn meddu ar y sgiliau, y mynediad a’r cymhelliant i fod yn ddefnyddiwr technoleg ddigidol yn hyderus.
Oes gennych awgrym o rywbeth yr hoffech ei weld yn eich cymuned? Ewch i’n tudalen Ymgysylltu â Chwsmeriaid i ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan.
Gallwch gysylltu â’n Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid ar-lein, dros y ffôn, neu drwy e-bost.
- Cliciwch yma i gwyno, adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu wneud ymholiad
- Cliciwch yma i roi gwybod bod angen gwaith trwsio yn eich cartref
- Neu gallwch ffonio’r Hwb ar 0300 123 2100