Ymunwch â ni fel Cadeirydd ein Bwrdd
Rydym wedi bod yn darparu cartrefi diogel a hapus ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fel rhan annatod o’n cymuned leol, chwaraeir rôl allweddol gennym yn adfywiad a ffyniant parhaus Pen-y-bont ar Ogwr a De Cymru. Rydym yn darparu dros 6,000 o gartrefi diogel a fforddiadwy, ac mae gennym bortffolio o fflatiau, […]
Treialu Ein Trefniadau Gweithio Newydd
Yn nhirwedd gyfnewidiol ein byd heddiw, rydym wrthi’n barhaus yn chwilio am ffyrdd arloesol o wella’r profiad i’n cwsmeriaid ynghyd â pharhau i fod yn lle gwych i weithio ynddo a recriwtio’r bobl orau i weithio gyda ni. I barhau i fod yn barod i newid a thyfu, rydym yn treialu menter sy’n anelu at […]
Beth hoffech chi ei weld yn ein mannau gwyrdd?
I ddiogelu ein planed hardd a gwneud y gorau o’n mannau gwyrdd, rydyn ni eisiau gweithio gyda chymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a meddwl yn wahanol am sut i ddefnyddio’r mannau agored hyn yn y dyfodol. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cydymweithio â’n cwsmeriaid a’n preswylwyr i benderfynu a oes yna awydd am wneud […]
Cefnogi Ein Cymunedau’r Nadolig Hwn
Wrth i ni baratoi ar gyfer y Nadolig, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cymryd rhan mewn tair menter leol ardderchog. Trwy gydweithio, rydym yn credu y gallwn gael effaith ystyrlon ar fywydau’r rhai hynny yn ein cymuned sydd ei hangen fwyaf. Eleni rydyn ni’n cefnogi: Apêl Siôn Corn Cyngor Pen-y-bont ar […]
Helpwch ni i ddewis ein Helusen y Flwyddyn!
Dros y 18 mis diwethaf, mae ein cydweithwyr wedi bod wrthi’n gweithio ar fenter anhygoel, sef cefnogi Y Bwthyn Newydd, gwasanaeth gofal lliniarol sy’n ymrwymedig i wella bywydau unigolion sy’n wynebu afiechydon difrifol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Diolch i haelioni a brwdfrydedd ein cydweithwyr, rydym wedi llwyddo i godi dros £5000 ar gyfer yr […]
Sicrhau Diogelwch a Chydymffurfio yn Ein Cartrefi
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Diogelwch a Chydymffurfio Tai Cymdeithasol, ac mae’n galw ar y gadwyn gyflenwi tai cymdeithasol gyfan i uno y tu ôl i ‘Diogel Gyda’n Gilydd’, mudiad newydd sy’n ceisio gwella diogelwch cwsmeriaid. Rydym yn gwneud nifer o bethau i’ch cadw’n ddiogel a sicrhau cydymffurfiad yn ein cartrefi. Diogelwch NwyDiogelwch yw […]
Yr Wythnos Sgwrsio am Arian Hon, Ymunwch â’n SesiwnSgwrsio Dydd Mawrth
Arian. Mae’n bwnc mae pawb yn meddwl amdano, ond yn aml yn bwnc mae’n well gennym beidio â’i drafod ar goedd. Mae Wythnos Sgwrsio am Arian yn gyfle perffaith i dorri’r distawrwydd a dechrau trafod ein materion ariannol. Rydyn ni’n cefnogi hyn, ac rydyn ni eisiau i chi ymuno hefyd trwygymryd cam syml ond pwysig: […]
Rhannwch eich meddyliau a’ch barnau am gyfle i ennill gwobrau bwydyddCymreig gyda TPAS Cymru.
Rydym yn cydweithio’n agos gyda Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS Cymru) ac yn eu cefnogi wrth iddynt lansio’u 3ydd Arolwg Tenantiaid Cenedlaethol Blynyddol. Pam mae’r arolwg hwn yn bwysig?Mae TPAS Cymru yn bwriadu adeiladu ar y mewnwelediadau gwerthfawr a gasglwyd yn eu Harolwg Blynyddol 2022, lle rhannoch chi eich meddyliau a’ch barnau. Mae’r mewnwelediadau […]
Hyrwyddo Cynwysoldeb a Diogelwch: Hyfforddiant Trosedd Gasineb
Y mis diwethaf, roeddem yn falch o gael rhannu ein hymagwedd at gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn ein sefydliad, yn ystod ein Cynhadledd Pen-blwydd. I gadarnhau ein hymrwymiad,rydym wedi partneru â Heddlu De Cymru i gynnal hyfforddiant trosedd gasineb. Mae’r fenter hon nid yn unig yn ymwneud ag ymwybyddiaeth, ond hefyd â chamau gweladwy, ystyrlony […]
Ymunwch â ni ar gyfer Ein Digwyddiad Galw Heibio Cymunedol
Mae’r adborth diweddar yn dweud wrthym fod yn well gennych ryngweithio â ni wyneb yn wyneb. Rydym wedi gwrando ac rydym yn ailddechrau’r ein digwyddiad Galw Heibio Cymunedol. Ein nod yw pontio unrhyw fylchau cyfathrebu a darparu mwy o gyfleoedd i chi ymgysylltu â ni. Lleoliad: Canolfan Gymunedol Caerau, Woodlands Terrace, Caerau,Maesteg CF34 0SRDyddiad: Dydd […]