Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi lansio ein hymgyrch cynaliadwyedd newydd, #ByddwchWyrdd. Rydyn ni eisiau i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr feddwl am sut gallwn bob un leihau ein heffaith ar y blaned a helpu i gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd fel y’u disgrifir yn ein Strategaeth Dyfodol Cynaliadwy Diogel a Hapus.

Mae ein Strategaeth Dyfodol Cynaliadwy Diogel a Hapus yn esbonio sut fyddwn yn gwella cynaliadwyedd ac yn lleihau ein hôl troed carbon dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn ein helpu i weithio tuag at ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae ein cysyniad datblygu cynaliadwy yn seiliedig ar bedwar piler a phob un dan arweiniad aelod o’n uwch dîm arweinyddiaeth

Byddwn yn gweithio’n agored ac yn gydweithredol gyda’n partneriaid, cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid allweddol i helpu i leihau effaith ein sefydliad a’n stoc dai.

Ein Cynllun

  • Lleihau ôl troed carbon ein gweithrediad
  • Datblygu diwylliant lle mae cynaliadwyedd yn rhan o’r holl broses gwneud penderfyniadau 
  • Rydyn ni’n anelu at achrediad Lefel 3 y Ddraig Werdd 
  • Deall y cyfleoedd yn ein stad i fwyhau eu buddiannau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd
  • Lleihau ein gwastraff a gweithio tuag at economi cylchol
  • Mesur gwelliannau’n rheolaidd a chyhoeddi ein llwyddiannau’n flynyddol
  • Creu cynllun i ddatgarboneiddio ein cartrefi
  • Canfod a sicrhau buddsoddiad i’n helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol
  • Ymchwilio i’r posibiliadau o ran cyfrannu at niwtraleiddio carbon
  • Bydd ymgysylltu â’n cwsmeriaid a’n cydweithiwr wrth graidd ein gweithgareddau cynaliadwyedd
  • Gweithio gyda’n cyflenwyr i leihau effaith ein cadwyn gyflenwi
  • Gweithio tuag at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Y Pedwar Piler

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar bedwar prif biler. Mae ein cydweithwyr wedi ffurfio grwpiau gweithredu i ganolbwyntio ar bob piler a’n helpu i gyrraedd ein nodau. Cliciwch ar bob piler i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn maent yn ei olygu a pha weithredoedd gallem eu gwneud:

DATGARBONEIDDIO (Link opens in new window)

Stopio allyriadau carbon deuocsid rhag mynd i’r atmosffer trwy ddiddymu tanwydd ffosil yn raddol (e.e. glo, olew, petrol).

EFFEITHLONRWYDD ADNODDAU (Sero Wastraff) (Link opens in new window)

Peidio â chynhyrchu unrhyw wastraff, sy’n golygu bod popeth naill ai’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei roddi.

BIOAMRYWIAETH (Link opens in new window)

Mae bioamrywiaeth yn cyfeirio at bethau byw a sut gallant effeithio a rhyngweithio â’i gilydd a’r gweithredoedd mae angen i ni eu gwneud i wrthdroi’r argyfwng ym myd natur.

ADDASU I NEWID HINSAWDD (Link opens in new window)

Newid ein hymddygiad, systemau a’n ffyrdd o fyw i baratoi ac ymaddasu i effeithiau presennol newid hinsawdd a’i ganlyniadau disgwyliedig yn y dyfodol.

Cymerwch ran

Oes gennych chi syniad gwych i’n helpu i gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd? Eisiau rhannu eich meddyliau a’ch syniadau ar sut gallwn leihau ein heffaith? Anfonwch e-bost atom a byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd gennym gyfleoedd i gymryd rhan.

Email us now
Strategaeth Dyfodol Cynaliadwy Diogel a Hapus (Link opens in new window)

Mae ein strategaeth yn esbonio sut fyddwn yn gwella cynaliadwyedd ac yn lleihau ein hôl-troed carbon dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn ein helpu i weithio tuag at ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Strategaeth darllen hawdd (Link opens in new window)

Mae gan bobl gydag anabledd dysgu yr hawl i gael gwybodaeth y maen nhw’n gallu ei deall er mwyn iddyn nhw wneud dewisiadau gwybodus, siarad i fyny a chymryd rhan yn eu cymunedau. Rydyn ni’n gwybod bod llawer o dermau technegol yn cael eu defnyddio wrth i ni drafod newid hinsawdd, felly rydym wedi cynhyrchu fersiwn darllen hawdd, heb jargon, o’r strategaeth i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu ymuno â’n mudiad #ByddwchWyrdd.

Newyddion Cynaliadwyedd

  • Diweddariad ar brosiect: Gwefru Ein Cartrefi

    Diolch i’r rhai ohonoch chi a ddaeth i’r digwyddiad Tŷ Agored a gynhaliwyd y mis diwethaf lle trafodwyd ein hymdrechion parhaus i symud 31 o’n cartrefi o gyflenwad nwy i gyflenwad trydan fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i ddatgarboneiddio, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni. Roedd wyth teulu yn bresennol dros y ddau ddiwrnod – ychydig yn…



  • Trosglwyddo cartrefi ym Mhorthcawl

    Yn ddiweddar, rydym wedi dathlu trosglwyddo’r allweddi ar gyfer eich cartefi newydd hardd ym Mhorthcawl. Mae’r datblygiad newydd hwn o 20 o gartrefi ar Heol yr Hen Orsaf, Tŷ’r Orsaf, yn cynnwys 17 cartref un ystafell wely a thri chartref dwy ystafell wely. Mae’r bloc o 20 o fflatiau hwn wedi cael ei ddylunio’n feddylgar…



  • Cymerwch ran yn ein cynllun i blannu 300 o goed ar draws Pen-y-bont ar Ogwr

    Yr hydref hwn, rydyn ni’n ymuno â Choed Cadw i harddu Pen-y-bont ar Ogwr drwy blannu 300 o goed ar draws y sir. Ein bwriad yw plannu coed yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed ond cyn i ni ddechrau, rydyn ni eisiau clywed eich barn ynglŷn â’r lleoliadau. Dyma’ch cyfle chi i gymryd rhan!…