Mae diogelwch ein cwsmeriaid yn brif flaenoriaeth i ni ac mae rhoi gwybod am ddamweiniau yn rhan hanfodol o gynnal amgylchedd byw diogel. Pan gawn wybod yn gyflym am ddamweiniau, anafiadau neu beryglon ar 0300 123 2100, gallwn weithredu’n syth i fynd i’r afael â’r mater a diogelu pawb drwy atal rhagor o helyntion.
Boed llithro, tripio, cwympo, neu unrhyw fater diogelwch arall, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Llithro a thripio: rhoi gwybod ac atal
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw beryglon fel lloriau anwastad, carpedi llac, neu ollyngiadau mewn mannau cymunol neu yn eich cartref, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy ffonio 0300 123 2100. Mae rhoi gwybod yn gyflym yn ein helpu i atal damweiniau.
Cadw’n ddiogel yn y cartref:
● Cadwch lwybrau cerdded yn glir o annibendod.
● Defnyddiwch fatiau gwrthlithro mewn ystafelloedd ymolchi a cheginau.
● Gwnewch yn siŵr bod goleuadau da ym mhob rhan o’ch cartref
● Sychwch ollyngiadau i fyny ar unwaith.
● Gwisgwch esgidiau neu sliperi sy’n ffitio’n dda.
● Os bydd damwain yn digwydd yn eich cartref, rhowch wybod i’n Hyb ar 0300 123 2100.
Awgrymiadau diogelwch yn y cartref cyffredinol:
● Gwresogi: wrth i’r tywydd newid, gwnewch yn siŵr bod eich system wresogi yn gweithio’n gywir. Os oes gennych unrhyw faterion, cysylltwch â ni.
● Diogelwch: gofalwch eich bod yn cloi pob drws a ffenestr allanol, yn enwedig yn y nos. Rhowch wybod i’r heddlu ac i ninnau am unrhyw weithgaredd amheus.