Lleihau ein heffaith ar y blaned
Rydym newydd orffen cyfrifo ein hôl troed carbon, sy’n dweud wrthym faint o garbon rydyn ni’n ei ddefnyddio fel sefydliad mewn blwyddyn. Mae hyn yn helpu i roi syniad i ni o’r effaith rydyn ni’n ei gael ar y blaned. Cyfanswm ein defnydd o garbon ar gyfer 2022-23 yw 33,938 o dunelli o garbon deuocsid […]
Mae eCymru wedi cyrraedd!
Mae eCymru, porth i denantiaid a grewyd mewn cydweithrediad rhwng gwahanol bartneriaid a thenantiaid, wedi’i lansio’n swyddogol ac rydyn ni’n falch o gyhoeddi y gallwch nawr cofrestru fel tenant Cymoedd i’r Arfordir. Dyluniwyd eCymru i fod yn borth i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig i denantiaid, gyda’r nod o’u cynorthwyo i fyw bywydau […]
Ysgol Gynradd Hencastell yn creu hanes drwy gladdu capsiwl amser ym Mhen-y- bont ar Ogwr
Ar ddydd Mawrth 25 Ebrill 2023, creodd ein cydweithwyr ddarn o hanes ym Mhen-y-bont arOgwr ar y cyd ag Ysgol Gynradd Hencastell a Hale Construction. I ddathlu cwblhau cam olaf y gwaith adeiladu ar ein datblygiad tai newydd ym Mrocastell,penderfynom nodi’r achlysur drwy wneud rhywbeth arbennig. Gydag chymorth y myfyrwyr ynYsgol Gynradd Hencastell, claddwyd capsiwl […]
Sut rydym ni’n perfformio?
Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol ym mis Ebrill, rydym yn edrych yn ôl dros y 12 mis blaenorol i werthuso ein perfformiad. Mae hyn yn rhoi syniad i ni o’r hyn rydym yn ei wneud yn dda, lle rydym yn rhagori ar ein amcanion, yn ogystal â nodi’r meysydd sydd angen eu gwella, gan ein […]
Mae #TyfuamAur nôl! Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth arddio nawr
Mae ein cystadleuaeth arddio nôl eleni eto! Y Gwanwyn a’r Haf hwn, rydyn ni’n partneru unwaith eto ag ASW Property Services i gydnabod a gwobrwyo ymdrechion garddio anhygoel ein cwsmeriaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydyn ni eisiau dathlu’r effaith cadarnhaol mae gerddi hardd, mannau cyhoeddus, a gwyrddlesni yn ei gael ar ein cymunedau. Gallwch roi […]
Mae’r ffordd rydych chi’n talu am eich dŵr wedi newid
Ers 2008, mae Valleys to Coast wedi casglu ffioedd dŵr a charthffosiaeth ar gyfer eich cartref ar ran Dŵr Cymru. O 1 Ebrill 2023, mae hyn wedi newid. Beth sydd wedi newid? O 1 Ebrill 2023, mae rhaid i chi talu Dŵr Cymru yn uniongyrchol am eich ffioedd dŵr a charthffosiaeth. Beth fydd yn digwydd […]
Cymoedd i’r Arfordir yn cefnogi gwelliannau i’r cae yng Nghlwb Rygbi Tondu
Gyda chymorth un o’n datblygwyr, Bluefield Land Ltd, rydym wedi bod yn cefnogi’r gwelliannau i’r cae yng Nghlwb Rygbi Tondu fel y gall chwaraewyr lleol hyfforddi a chwarae drwy gydol tymor y Gaeaf. Roedd ein Partner Busnes Masnachol a Budd Cymunedol, Rachel Lovell, yn falch iawn o hwyluso’r budd cymunedol lleol hwn yng nghanol Tondu. […]
Buddiannau Nadoligaidd i’r Gymuned gyda Tanio Cymru
Fis Rhagfyr diwethaf, buom yn cydweithio gyda’r sefydliad celfyddydau cymunedol lleol, Tanio Cymru, yn eu digwyddiad Nadolig blynyddol yn Bettws. Roedd hwn yn cynnwys cerddoriaeth offerynnol a lleisiol fyw, crefftau i’w gwneud a mynd â nhw adref, canu carolau, bwyd blasus a groto hardd gydag ymweliad gan Siôn Corn Cymraeg. Gyda chymorth un o’n datblygwyr, […]
Ein hymateb i lwydni, lleithder a chyddwysiad
Mae’n siŵr y byddwch wedi clywed am y ffocws cenedlaethol ar broblemau gyda llwydni, cyddwysiad a lleithder yn sgil marwolaeth drasig Awaab Ishak, y plentyn dwyflwydd oed o Oldham a fu farw ar ôl dod i gysylltiad â llwydni yn ei gartref dros gyfnod hir. Yn gwbl gywir, mae’r awdurdodau wedi bod yn craffu’n fwy […]
Cynllun Plannu Coed Llwyddiannus Ar Draws Pen-y-bont ar Ogwr
Yn ôl ym mis Hydref, trafodom ein cynlluniau i harddu Sir Pen-y-bont ar Ogwr trwy blannu 300 o goed a roddwyd gan Goed Cadw. Rydym wedi bod wrthi’n brysur yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed dros yr wythnosau diwethaf, gyda chymorth rhai ohonoch yn y gymuned, yn cynnwys disgyblion o Ysgolion Cynradd Garth, Corneli […]