Ein Hunanarfarniad o Gydymffurfiaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn gosod safonau rheoleiddio y mae angen i ni eu bodloni, ac rydym yn asesu’r sefydliad yn erbyn y safonau hyn bob blwyddyn.

Darllenwch ein Hunanarfarniad o Gydymffurfiaeth yma.

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â sut rydym yn perfformio? Cysylltwch â ni a rhowch wybod i ni.

Gellir dod o hyd i’r fanylion am yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud, nid yn unig i barhau i gydymffurfio â’r safonau rheoleiddio, ond hefyd er mwyn sicrhau gwelliant parhaus ar draws pob agwedd o ein sefydliad yn ein cynllun gwella fframwaith rheoleiddio.

Darllenwch ein Cynllun Gwella yma.

Ein Strategaeth Gorfforaethol

Mae hyn yn mapio ein llwybr fel sefydliad am y deng mlynedd nesaf, ac yn atgyfnerthu ein diben, gan ddisgrifio ein gweledigaeth, ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau strategol.

Mae’n esbonio’r tri cham i’n strategaeth, gan gynnwys y cam presennol, ‘Brilliant Basics’. Mae’r cam hwn yn canolbwyntio ar gael ein gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw craidd i’r man lle y dylent fod ar ôl COVID, gan osod sylfaen gadarn y gallwn adeiladu a thyfu ohoni, i fynd i’r afael â’r argyfwng tai cenedlaethol a helpu i adfywio Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol hefyd yn ymrwymo i’n pedwar amcan corfforaethol, sydd gyda’i gilydd yn anelu at sicrhau bod ein cwsmeriaid, eu cartrefi, ein cymunedau a’n cydweithwyr yn ddiogel ac yn hapus. Mae hyn wrth wraidd popeth a wnawn.

Darllenwch ein Strategaeth Gorfforaethol yma.

Ein Strategaeth Hymgysylltu â’r Cwsmer a’r Gymuned

Yng Nghymoedd i’r Arfordir, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein cwsmeriaid a’n cymunedau yn cael lleisio’u barn ar y gwasanaethau sy’n effeithio arnynt.

Rydym yn gwneud hyn trwy ymgysylltu â’r cwsmer a’r gymuned, gan sicrhau bod ein cwsmeriaid bob amser wrth galon popeth a wnawn – a bod yr hyn a wnawn yn helpu ein cymunedau i ffynnu.

Darllenwch ein Strategaeth Ymgysylltu â’r Cwsmer a’r Gymuned yma.

Ein Datganiadau Ariannol

Mae ein datganiadau ariannol yn dangos ein hiechyd ariannol fel sefydliad, gan roi cipolwg ar ein perfformiad, ein gweithrediadau a’n llif arian. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein refeniw, treuliau, proffidioldeb a dyled am y flwyddyn ddiwethaf yn ein Datganiadau Ariannol diweddaraf yma.

Darllenwch ein Datganiadau Ariannol blaenorol:

 

Ein Dyfarniad Rheoleiddiol

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn ein hasesu yn erbyn safonau penodol ac yn rhoi barn i ni ar ba mor dda yr ydym yn eu bodloni.

Darllenwch fwy am ganlyniadau ein Dyfarniad Rheoleiddiol yma.

Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

O fis Ebrill 2017, cyflwynodd Llywodraeth y DU adroddiadau ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer pob cwmni sy’n cyflogi mwy na 250 o bobl.

Gwelwch ein Hadroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2023

Ein Cynllun Iaith Gymraeg

Mae ein hymrwymiad i ddwyieithrwydd yn amlwg yn ein logo, ac rydym yn cyhoeddi’r holl ddogfennau allweddol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym am i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau wneud hynny drwy eu dewis iaith.

Darllenwch am ein Cynllun Iaith Gymraeg

Ein Polisi Chwythu’r Chwiban

Rydym am sicrhau bod gennym y safonau uchaf o fod yn agored ac yn atebol, gan sicrhau bod unrhyw gydweithwyr a phartneriaid sydd â phryderon difrifol am unrhyw agweddau ar ein gwaith yn gallu cyflwyno a mynegi’r pryderon hynny i ni. 

Darllenwch fwy a rhowch wybod am unrhyw Chwythu’r Chwiban yma.

Oes gennych chi bryder neu gŵyn?

Rydym yn cymryd eich pryderon ac unrhyw gwynion am ein gwasanaethau o ddifrif, ac rydym wedi ymrwymo i ddelio â hwy’n gyflym ac yn effeithiol. 

Darganfyddwch sut i roi gwybod am unrhyw Bryderon a Chwynion yma.

Ein hymateb i Lywodraeth Cymru ynglŷn â lleithder a llwydni

Ym mis Rhagfyr 2022, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at bob landlord cymdeithasol yng Nghymru yn gofyn am sicrwydd o ran y camau roeddent yn eu cymryd i fynd i’r afael â lleithder a llwydni.

Dyma ein hymateb llawn: Tai Cymoedd i’r Arfordir – Ymateb i Lywodraeth Cymru ynglŷn â Lleithder a Llwydni, 20 Ionawr 2023  

Adroddiad Tryloywder Tâl

Cafodd Turning Point HR Solution, cwmni ymgynghori annibynnol ar Wobrwyo, eu penodi gan Cartrefi Cymunedol Cymru i gasglu a dadansoddi data a ddarparwyd yn uniongyrchol gan gymdeithasau tai ar gydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr.

Bwriad yr adroddiad hwn yw cyflwyno gwybodaeth am dâl uwch reolwyr mewn un lle. Nid yw’r adroddiad yn mynd ati i ddadansoddi, gwneud casgliadau nac argymhellion.

Darllenwch yr Adroddiad Tryloywder Tâl.

Ein Dull Gweithredu mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae gan bawb yr hawl i deimlo eu bod yn perthyn yn eu gweithle a’u cymuned. Mae Cymoedd i’r Arfordir wedi ymrwymo i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y sefydliad, ei gwsmeriaid, cymunedau a chydweithwyr.

Gwelwch ein Hadroddiad Dull Gweithredu mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant