Yng nghanol y fwrdeistref, mae gennym gartrefi yn Nhref Pen-y-bont ar Ogwr a’r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys ystâd dai Wildmill, lle mae gennym 400 o gartrefi ychydig y tu allan i ganol y dref. Mae gennym hefyd gartrefi yn Sarn, Bracla ac Ynysawdre.
Wedi’i leoli oddi ar gyffordd 37 yr M4, ac yn agos i lan y môr ym Mhorthcawl, mae ein cartrefi yng Ngogledd Corneli wedi’u lleoli ar Ystâd Marlas a’r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys datblygiad Barnhaus: eco-gartrefi sy’n rhan o Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Mae gennym gartrefi ym Metws, Blaengarw, Llangeinor, a Phontycymer, o amgylch yr hen gymuned lofaol hon ychydig i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd yn gartref i Reilffordd Cwm Garw a Pharc Calon Lan.
Mae ein cartrefi wedi’u lleoli ym mhen cwm Llynfi ym Maesteg, hen dref lofaol a ddatblygwyd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.
Yn adnabyddus am ei threftadaeth leol a’i theithiau cerdded gwledig, mae ein cartrefi yng Nghwm Ogwr wedi’u lleoli yn Blackmill, Evanstown, Lewistown, Bro Ogwr, a Pantyrawel.
Ychydig oddi ar yr M4 yng Nghwm Ewenni mae ein cartrefi yn nhref Pencoed a phentref bach Heol y Cyw.
Mae gennym gartrefi yn nhref glan môr boblogaidd Porthcawl, ar arfordir y de sy’n edrych dros Fôr Hafren.
Ychydig dros bum milltir o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr mae pentrefi Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr a’r Pîl. Mae ein datblygiad diweddar yng Nghefn Cribwr ar safle hen Neuadd Ambiwlans Sant Ioan, a gydnabuwyd wrth enwi’r stryd newydd: Clos Sant Ioan.