Beth mae ein tîm Adfywio yn ei wneud?


Yn syml, maent yn helpu i adeiladu lleoedd diogel a hapus yn ein cymuned. Maent yn gwneud hyn trwy ddulliau megis gwella’r ardaloedd o amgylch cartrefi ein cwsmeriaid a gyrru prosiectau mwy yn eu blaenau sy’n rhoi hwb i fioamrywiaeth a’r economi leol.

Mae’r prosiect mwyaf diweddar yn cipio diben adfywio:

Dysgu gan weithredwyr creu lleoedd y dyfodol

Gwahoddwyd Rachel Lovell, Pennaeth Adfywio, i Ysgol Gynradd Oldcastle y mis hwn i gefnogi disgyblion Blwyddyn 6 o ran dylunio datblygiad newydd ar gampws Canol Tref Coleg Pen-y-bont.

Gan ddefnyddio Minecraft i ddod â’r dasg yn fyw, archwiliodd y plant syniadau ynghylch cartrefi, ardaloedd gwyrdd a hybiau cymunedol. Ond roedd yn rhaid i’w cynlluniau fod yn gynaliadwy a chefnogi’r gymuned i ffynnu.

Roedd y plant yn angerddol am y prosiect a chynhaliwyd llawer o drafodaethau meddylgar ynghylch yr hyn sy’n gwneud i rywle deimlo’n gartrefol. Roedd eu ffocws ar adfywio sy’n cefnogi pobl a’r blaned sy’n berffaith ar gyfer ein gwerthoedd.

Ychydig o eiriau gan Rachel ynghylch pam bod y prosiect hwn o bwys:


“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft glir o’n blaenoriaeth Lleoedd Diogel a Hapus ar waith. Mae’n adlewyrchu sut rydym yn ystyried ein rôl, nid yn unig fel darparwyr tai, ond fel gweithredwyr creu lleoedd. Mae’n ymwneud â grymuso a chreu amgylchedd y mae pobl yn falch o fod yn rhan ohono, nawr ac yn y dyfodol.

Mae cefnogi plant i feddwl am y pethau hyn ar oedran mor ifanc hefyd yn fuddsoddiad yn nyfodol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n dangos sut mae ein gwaith yn cysylltu â’r genhedlaeth nesaf a pham bod gwrando ar leisiau lleol yn bwysig.”

Ychwanegodd Jodie James, Arweinydd Digidol ac Arweinydd Meysydd Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Ysgol Gynradd Oldcastle, “Roeddem yn wir wedi gwerthfawrogi’r cymorth a’r amser. Roedd y ddau ddosbarth wedi mwynhau’r sesiwn!”