Mae’n rhaid i ni gynnal gwiriadau diogelwch nwy yn ein holl gartrefi bob blwyddyn, a hyd yma, Colin Laver sydd wedi eu cynnal.
Rydym yn falch o ddweud y bydd y gwasanaeth hwn yn fewnol o eleni ymlaen. O Ebrill 2025, bydd Llanw yn rheoli’r holl wiriadau diogelwch nwy, gosodiadau, gwasanaethu, a chynnal a chadw yn uniongyrchol.
Bydd ein tîm Llanw ardystiedig yn sicrhau bod pob archwiliad a gwaith atgyweirio yn cael eu cwblhau i’r safonau uchaf.
Sut fydd hyn yn fy helpu i?
Dyma sut fydd yn ein helpu i greu gwasanaeth mwy dibynadwy:
● Cyfathrebu clir ac aflonyddwch minimol – gan fydd Cymoedd i’r Arfordir a Llanw yn cydweithio’n agos, gallwn gyflenwi gwasanaeth dibynadwy ar gyfer ein holl gartrefi.
● Byddwn yn cynnal cartrefi yn ofalus ac yn sylwgar, gan sicrhau eu bod yn bodloni ac yn rhagori ar yr holl ofynion diogelwch cyfreithiol. Trwy gymryd y cam hwn, rydym yn darparu gwasanaeth sy’n blaenoriaethu diogelwch, ymddiriedaeth ac ansawdd i’n cwsmeriaid.
Atebion i’ch cwestiynau
Beth sy’n digwydd i’r bartneriaeth bresennol gyda’r Colin Laver Group?
Bydd y bartneriaeth hon yn dod i ben ar Ebrill 1af. Mae cynllun pontio manwl yn ei le i sicrhau bod gwasanaethau’n trosglwyddo’n hwylus i Llanw.
Pa gymwysterau sydd gan dîm Llanw?
Mae tîm Llanw yn cynnwys peirianwyr diogelwch nwy ardystiedig sy’n bodloni ac yn rhagori ar yr holl ofynion diogelwch cyfreithiol. Byddant yn derbyn hyfforddiant ychwanegol i sicrhau eu bod yn gymwys i gyflenwi gwasanaeth eithriadol.
A fyddwch chi’n cyflwyno adnoddau ychwanegol?
Byddwn, byddwn yn ehangu ein tîm Llanw i ymaddasu i’r newid hwn. Mae hyn yn cynnwys cyflogi peirianwyr newydd.
Sut fydd y gwiriadau diogelwch nwy yn cael eu trefnu?
Bydd ein system TG atgyweirio newydd yn golygu bod trefnu apwyntiadau yn fwy effeithlon. Bydd cwsmeriaid yn gallu cyrchu dewisiadau apwyntiadau hyblyg, a bydd ein tîm yn anfon nodion atgoffa a diweddariadau i’w hysbysu.