Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn dechrau gweithio ym mis Ebrill 2025 tuag at ennill achrediad trwy’r Cynghrair Tai Cam-drin Domestig (DAHA).
Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau mwyaf diogel posibl i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr.
Golwg manylach ar y broses
Bydd ennill achrediad yn broses drwyadl, a fydd yn cymryd hyd at 18 mis. Byddwn yn drafftio cynllun gweithredu a bydd rhaid i ni ddangos tystiolaeth o’n cynnydd tuag at y gweithredoedd hyn.
Yna byddwn yn destun adolygiad blynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i gadw at y safonau uchaf.
Pam rydyn ni’n cymryd y camau hyn?
Mae cam-drin domestig yn effeithio ar un o bob pum oedolyn. Yn drasig, y cartref – lle dylai pobl deimlo’n fwyaf saff – yw’r man mwyaf peryglus i ddioddefwyr yn aml.
Fel landlord cymdeithasol, gallwn ninnau wneud gwahaniaeth. Trwy adnabod ac ymateb i gam-drin domestig yn gynnar, gallwn ddiogelu dioddefwyr a’u plant rhag niwed, atal digartrefedd, a thorri’r cylch cam-drin.
Beth Mae Hyn yn ei Olygu i Ni?
Mae DAHA yn gorff achredu blaenllaw sy’n gosod safonau uchel o ran sut mae darparwyr tai yn mynd i’r afael â cham-drin domestig. Dim ond nifer fechan o ddarparwyr yng Nghymru sydd wedi cwblhau’r broses, felly bydd hyn yn ein gosod yn rheng flaen y gwaith hanfodol hwn, gan godi’r bar ar draws Cymru.
“Rwy’n hyderus y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon”
Bydd y Swyddog Diogelu, Sam Strong, yn arwain y prosiect.
Meddai: “Rwy’n llawn cynnwrf am fod y sefydliad wedi ymrwymo i ennill yr achrediad DAHA, sydd â hanes blaenorol profedig o helpu darparwyr tai i roi cymorth o’r lefel uchaf i fynd i’r afael â cham-drin domestig. Rwy’n hyderus y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol ac ystyrlon i fywydau ein cwsmeriaid. Bydd yn ymdrech tîm go iawn, gan sicrhau bod pob maes o’r busnes yn rhagweithiol wrth adnabod arwyddion o gam-drin ac yn ymateb yn briodol i gadw ein cwsmeriaid yn ddiogel ac yn hapus ym mhob peth a wnawn.”
Beth i’w wneud os ydych yn pryderu am gam-drin domestig
Os ydych yn poeni amdanoch chi eich hunan neu rywun rydych yn meddwl gallai fod yn byw gyda cham-drin domestig, gallwch alw ein tîm gwasanaeth i gwsmeriaid ar 0300 123 2100. Gallwn drafod opsiynau tai, ystyried mesurau diogelwch ychwanegol i’w gosod yn eich cartref, neu eich cyfeirio at y cymorth cywir.
Adnoddau lleol a chenedlaethol
● Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae ASSIA yn cefnogi’r rhai sy’n dioddef oherwydd cam-drin domestig ac yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i ddioddefwyr a chyflawnwyr. Gallwch eu ffonio ar 01656 815919 neu ewch i’r wefan i gael mwy o wybodaeth – Cam-drin domestig – CBS Pen-y-bont ar Ogwr
● Mae Byw Heb Ofn Cymru yn darparu cymorth cyfrinachol, am ddim 24/7. Gallwch eu ffonio ar 0808 80 10 800 ac ni fydd y galwadau yn ymddangos ar filiau ffôn llinell tir. Gallwch hefyd gael cymorth neges testun 24/7 ar 07860 077333. Gall defnyddwyr ffôn testun gysylltu â Byw Heb Ofn drwy Typetalk ar 18001 0808 80 10 800
● Mae Shelter Cymru yn darparu’r wybodaeth gyfreithiol ddiweddaraf am sut gallwch gyrchu cyngor cyfreithiol am ddim ar eich hawliau tai.