Rydyn ni’n deall bod colli rhywun agos yn brofiad anodd ac emosiynol. Gall rheoli materion ymarferol yn ystod y cyfnod hwn deimlo’n llethol. I helpu i hwyluso’r broses o derfynu eu deiliadaeth gyda ni cymaint â phosibl, dyma beth fydd ei angen gennych:

Tystysgrif marwolaeth

I derfynu contract yn ffurfiol, bydd angen copi o’r dystysgrif marwolaeth arnom ar gyfer ein cofnodion.

Os ydych yn disgwyl y bydd oedi wrth dderbyn y ddogfen hon, gall y Crwner roi Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro i chi.

Rydym yn hapus i dderbyn llun o ddwy ochr y dystysgrif trwy e-bost.

Taliadau rhent

Byddwn yn parhau i gasglu rhent ar ystad y deiliad contract nes bydd yr allweddi wedi cael eu dychwelyd atom, gan derfynu’r contract yn ffurfiol.

Pan fyddwch yn sicr bod yr eiddo yn wag ac yn lân, gallwch roi’r allweddi i ni.

Rhaid dychwelyd yr allweddi heb fod yn hwyrach na mis calendr ar ôl
dyddiad y farwolaeth, ac ar yr adeg hon, byddwn yn rhoi’r gorau i gasglu rhent ac yn newid y cloeon.

Os oes angen estyniad, siaradwch â phartner tai cyn gynted ag y gallwch i drefnu hyn.

Dychwelyd yr allweddi

Gallwch ddod â’r allweddi i’n swyddfeydd yn Heol Tremains ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu eu gosod yn y coffor allweddi a ddarparwn yn y cyfeiriad. Os cysylltwch â ni pan fyddwch yn barod i ddychwelyd yr allweddi, gallwn roi rhif y coffor allweddi i chi.

Taliadau clirio a glanhau

I osgoi codi taliadau clirio a glanhau ar ystad y deiliad contract, rhaid dychwelyd yr eiddo i ni yn wag ac yn lân.

Sut gall y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith eich helpu

Mae gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith y Llywodraeth yn caniatáu i chi roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau llywodraeth ar yr un pryd. Gallwch gyrchu’r gwasanaeth hwn ar-lein ar
https://www.gov.uk/after-a-death/organisations-you-need-to-contact-
and-tell-us-once
.

Noder y byddai’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar wahân, gan nad ydym yn
derbyn hysbysiadau gan y gwasanaeth hwn.

Rydyn ni yma i gynnig cymorth ac ateb eich cwestiynau. Os oes angen
unrhyw help arnoch, ffoniwch ni ar 0300 123 2100.