Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu cartrefi diogel, hapus ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ein gwreiddiau’n ddwfn yn ein cymuned leol, ac rydym yn chwarae rhan hanfodol yn ei hadfywio a sicrhau ffyniant ehangach Pen-y-bont ar Ogwr a De Cymru.
Heddiw, rydym yn rheoli dros 6,000 o gartrefi diogel a fforddiadwy ar y cyd â phortffolio o fflatiau lesddaliadol, garejis, ac eiddo masnachol. Y llynedd, lansiom ein cwmni atgyweirio a chynnal a chadw newydd, Llanw, ac eleni, rydym yn sefydlu is-gwmni datblygu ac adfywio i gryfhau a thyfu ein sefydliad yn fwy fyth.
Mae ein pwrpas yn un syml: creu cartrefi cynaliadwy a mannau lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus, ynghyd â chyfrannu at ddyfodol mwy disglair i Ben-y-bont ar Ogwr a Chymru.
Mae ein Bwrdd yn greiddiol ar gyfer cyflawni’r pwrpas hwn, gan sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir er budd ein cwsmeriaid, cymunedau, a’n cydweithwyr. Mae aelodau’r Bwrdd yn sylfaenol gyfrifol am arwain ein sefydliad, gan gynnig cymorth a heriau adeiladol i’n tîm arwain er mwyn eu helpu i gyrraedd ein nodau.
Rydym yn chwilio am feddylwyr strategol brwd i ymuno â’n Bwrdd ‒ pobl sy’n cael eu hysbrydoli gan ein cenhadaeth ac sy’n awyddus i lunio dyfodol Cymoedd i’r Arfordir wrth i ni gychwyn ar gam nesaf ein Strategaeth. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n credu mewn cydweithredu ac sy’n rhannu ein hymrwymiad i osod cwsmeriaid a chymunedau wrth galon popeth a wnawn.
Y swyddi sydd ar gael
Mae gennym ddwy rôl allweddol a fydd yn helpu i lywio dyfodol Cymoedd i’r Arfordir:
Mae’r Pwyllgor hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth oruchwylio ein swyddogaethau archwilio a sicrhau safonau uniondeb uchel, ac mae’n atebol i Fwrdd Cymoedd i’r Arfordir wrth gyflawni’r cyfrifoldebau a ddirprwywyd iddo fel y’u disgrifir yn y Cylch Gorchwyl.
Fel Cadeirydd, byddwch yn darparu arweinyddiaeth gadarn, gan lywio’r Pwyllgor i gyflawni ei gyfrifoldebau’n effeithiol ac yn unol â’i gylch gorchwyl.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn aelod o Fwrdd Cymoedd i’r Arfordir hefyd.
Cyflog : £7,000 y flwyddyn
Dyddiad cau: 31 Ionawr 2025
Mae ein Bwrdd yn sicrhau bod Cymoedd i’r Arfordir yn cael ei reoli’n effeithlon ac yn unol â safonau cyfreithiol ac arfer gorau. Fel Aelod o’r Bwrdd, byddwch yn helpu i gynnal y safonau hyn a llunio ein dyfodol, gan ganolbwyntio ar ddarparu goruchwyliaeth strategol a sbarduno arloesedd digidol er mwyn gwella gweithrediadau a chyfoethogi profiadau ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr.
Cyflog : £6,000 y flwyddyn
Dyddiad cau: 31 Ionawr 2025
Sut i ymgeisio
Wedi i chi ddarllen y Pecyn Gwybodaeth Recriwtio, gallwch ymgeisio am un o’r swyddi cyffrous hyn drwy e-bostio governance@v2c.org.uk a chynnwys:
- Eich CV ‒ gan ddisgrifio eich addysg, profiad gwaith, sgiliau, a chymwysterau perthnasol.
- Datganiad ategol ‒ yn esbonio pam mai chi yw’r ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl, gydag enghreifftiau neu gyflawniadau sy’n briodol i feini prawf y swydd.
Asesiad a chyfweliad
Os byddwch yn llwyddo i gyrraedd y rhestr fer, byddwn yn cysylltu â chi yn fuan ar ôl y dyddiad cau, 31 Ionawr 2025. Cewch eich gwahodd i’r diwrnod asesu a gynhelir yn ystod yr wythnos yn dechrau 10 Chwefror 2025. Rhoddir rhagor o fanylion ynglŷn â’r broses asesu a chyfweld ar yr adeg honno.