Rydym wedi bod yn gweithio gyda CIVICA, ein cydweithwyr, a chwithau – ein cwsmeriaid – i ddatblygu system reoli tai newydd a gwell.

Cyflymu ein gwasanaethau

Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio cyfuniad o systemau a thaenlenni i reoli pethau fel gwaith atgyweirio, casglu rhent, rheoli tenantiaethau a chyfathrebu â chwsmeriaid.

Bydd y system newydd yn symleiddio hyn oll drwy roi popeth, yn cynnwys gwybodaeth i gwsmeriaid, mewn un man hawdd ei ddefnyddio, gan sicrhau gwasanaethau cyflymach.

Pum ffordd y bydd y system yn eich helpu

● Ymateb yn gyflymach: gan fydd holl wybodaeth a nodiadau’r cwsmeriaid yn yr un man, bydd ein tîm yn gallu cyrchu beth sydd ei angen arnynt yn gyflym

● Gwella gwasanaethau: bydd rheoli gwaith atgyweirio, rhent a thenantiaethau trwy un system yn golygu llai o oedi wrth drafod ceisiadau

● Gwella cyfathrebu: bydd y system yn ein helpu i reoli’n rhyngweithiadau â chwsmeriaid yn well, gan sicrhau nad ydym yn colli dim

● Cryfhau diogelwch: bydd data cwsmeriaid yn cael eu rheoli’n fwy diogel, gan roi’r sicrwydd i chi bod eich gwybodaeth yn saff

● Mynediad cynhwysol: rydym yn archwilio’r opsiynau o ran porth i gwsmeriaid sy’n cefnogi’r Gymraeg, gan sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Rydym hefyd wedi cynllunio’n ofalus ar gyfer risgiau posibl ac mae atebion gennym wrth law – mae CIVICA yn ein canmol am y dull hwn o weithredu.

Y ffordd ymlaen…

Disgwylir y bydd y system hon yn barod rhwng Gorffennaf a Medi 2025, felly cadwch mewn cysylltiad.