Mwynhaodd ein cwsmeriaid yng Nghynllun Byw yn y Gymuned Lake View gadwyn o ganeuon Nadolig ddydd Mawrth diwethaf gan ddod ag ysbryd y Nadolig iddynt.
Mae ein Cynlluniau Byw yn y Gymuned yn cynnig llety byw yn y gymuned i breswylwyr dros bum deg oed ac maent yn cynnwys lolfeydd, ceginau, a chyfleusterau golchi dillad cymunedol.
Dod â’r gymuned at ei gilydd
Mae ein tîm cyfranogi’n gweithio’n galed i drefnu digwyddiadau rheolaidd yn ein cynlluniau i ddifyrru ein cwsmeriaid. Meddai Georgia Emmanuel, Partner Ymgysylltu â’r Gymuned:
“Mae’r digwyddiadau hyn mor bwysig i ddod â’r gymuned at ei gilydd a lledaenu hwyl yr ŵyl. Mae wedi bod yn hyfryd gweld y wên ar wynebau’r preswylwyr. Yn nigwyddiad yr wythnos ddiwethaf yn Lake View, daeth yr hen a’r ifanc at ei gilydd, ac ar ôl mwynhau’r canu hyfryd gan Ysgol Gynradd Porthcawl, dywedodd yr holl gwsmeriaid eu bod yn teimlo’n fwy Nadoligaidd wedyn.”
Wrth sôn am y perfformiad, dywedodd un o breswylwyr Lake View, “pan fod y plant yn bwrw ati, maent wrth eu boddau’n canu, ac rydyn ninnau wrth ein boddau’n gwrando arnynt. Mae’n beth da i’r plant gael dod i’n gweld, ac ar yr un pryd rydyn ninnau’n mwynhau gweld y plant.”
Gallwch glywed mwy gan ein tenantiaid a gwrando ar y plant yn perfformio yma: