Daeth y Nadolig yn gynnar i’n cwsmeriaid yn Llys Ton, wrth iddynt fwynhau parti Nadolig a drefnwyd gan ein Tîm Byw yn y Gymuned ymroddgar ddydd Iau diwethaf.


Llys Ton yw ein hunig gynllun gofal ychwanegol, ac mae ein cydweithwyr wedi gweithio’n galed i feithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith y preswylwyr.

Meddai Emma Norman, Partner Byw yn y Gymuned Cymoedd i’r Arfordir:

“Mae’r digwyddiadau hyn yn helpu preswylwyr i ddatblygu perthnasoedd ystyrlon gyda’u cymdogion. Mae’r parti Nadolig blynyddol yn gyfle i ni groesawu aelodau’r gymuned leol, yn cynnwys cynghorwyr a phlismyn, fel y gallwn greu cysylltiadau yn y gymuned. Mae’r preswylwyr yn gwahodd eu ffrindiau a’u teulu ac maent yn ymfalchïo yn y parti. Yn wir, rydyn ni’n eu clywed yn sôn amdano yn aml fisoedd wedyn!”

Noson i’w chofio

Ni fu parti eleni yn eithriad. Bu’r preswylwyr wrthi’n chwarae bingo, canu karaoke a chael ymweliad gan Siôn Corn, a roddodd anrhegion i’r plant.


Dywedodd un preswyliwr wrthym, “fel rhywun sy’n byw gydag iselder, mae hwn wedi codi fy ysbryd. Gwnes i fwynhau … can miliwn y cant!”


Gallwch glywed mwy am pam mae ein preswylwyr yn dwli ar ein parti blynyddol – a gweld rhai o’r uchafbwyntiau yma: