Eleni, cawsom ein henwebu ar gyfer Gwobrau Tai Cymru mewn dau gategori – Tîm Incwm Cymunedol a’r Cyflawnwr Ifanc mewn Tai.
Roeddem wrth ein bodd pan enillodd ein cwmni atgyweirio Llanw’r wobr am yr ymgyrch gorau. Er na wnaethom ennill gwobr, cawsom amser gwych yn dathlu cael cydnabyddiaeth am ein gwaith caled.
Sbotolau ar Louisa, enwebai Cyflawnwr Ifanc mewn Tai
Llongyfarchiadau i Louisa Thomas, a enwebwyd ar gyfer y wobr Cyflawnwr Ifanc mewn Tai. Ymunodd Louisa â ni x mlynedd yn ôl fel Partner Tai Cymunedol, ac mae ei gwaith wedi cael effaith sylweddol ar fywydau ein tenantiaid.
Meddai Jacqueline Thomas, cwsmer Cymoedd i’r Arfordir:
“Siaradais â Louisa am y tro cyntaf yn 2023 ar ôl gwneud ymholiadau ynglŷn â’r defnydd parhaus o wresogyddion trydan yn y mannau cymunol. Rhoddodd Louisa wybod i’r tenantiaid ein bod bob un yn gorfod talu am eu defnyddio yn ein man cymunol, a hyd yma eleni nid yw’r tenantiaid eraill wedi eu troi ymlaen o gwbl.
“Ar achlysur arall, adroddais am ddigwyddiad yn yr adeilad ac ymwelodd Louisa â nhw o fewn awr. Cysylltodd â mi ymhellach a chynnal Asesiad Risg, gan fy nghynghori ar sut i ymateb i’r senarios hyn pe byddent yn digwydd eto. Teimlais fy mod yn cael cymorth ystyrlon a thawelwyd fy meddwl. Trefnodd hefyd i gontractwr ymweld â’r llety i lanhau.
“Mae mor hawdd cysylltu â Louisa a siarad â hi. Mae’n ceisio helpu gydag unrhyw broblemau ac yn gwneud ymdrech mewn ffordd gyfeillgar a chymwynasgar. Mae gan Louisa agwedd eithriadol dda at ei gwaith ac atom ni’r tenantiaid. Mae’n gwrando ar ein pryderon ac yn bwysicach o lawer, mae’n gweithredu arnynt.
“Mae wedi ein gwneud yn hapusach drwy sicrhau bod ein llety yn amgylchedd gwell a bod byw mewn eiddo Cymoedd i’r Arfordir yn brofiad boddhaol. Rydw i bendant yn teimlo’n fwy hyderus wrth ddelio â materion yn ymwneud â thai nawr.”
Diolch Louisa am dy holl waith caled!