Cyn hir byddwn yn dymchwel y chwe garej yn Woodland Close.

Pam rydyn ni’n dymchwel y garejis?

Oherwydd y stormydd diweddar, mae’r garejis nawr yn anniogel.

Rydym wedi siarad ag unig denant y garejis i gadarnhau y byddant yn cael eu dymchwel.

Y camau nesaf

Nid oes gennym ddyddiad penodol ar gyfer dymchwel y garejis, ond bydd yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn creu mannau parcio yn eu lle i’w defnyddio ar sail y cyntaf i’r felin.