Wrth i Ben-y-bont ar Ogwr ymbaratoi ar gyfer storm arall ‒ storm Darragh ‒ gallwch gadw’n ddiogel drwy ddilyn cyngor y Swyddfa Dywydd.

Pum peth i’w gwneud cyn i’r storm ddechrau:

● Clymwch eitemau rhydd fel ysgolion a dodrefn gardd a allai gael eu chwythu yn erbyn ffenestri neu wydr
● Caewch yr holl ddrysau, ffenestri a chaeadau storm yn dynn
● Parciwch eich car i ffwrdd oddi wrth adeiladau, coed, waliau a ffensys
● Caewch drapddorau llofft yn dynn gan ddefnyddio bolltau
● Os ydy cyrn simnai yn uchel ac mewn cyflwr gwael, symudwch unrhyw welyau oddi wrth y mannau yn syth oddi tanynt

Yn ystod y storm…

● Arhoswch yn y tŷ os gallwch
● Os oes rhaid i chi fynd allan, peidiwch â cherdded neu gysgodi yn agos at adeiladau neu goed, a chadwch draw oddi wrth ochr gysgodol waliau terfyn a ffensys
● Peidiwch â mynd allan i drwsio difrod tra bod y storm yn dal wrthi
● Os gallwch, ewch i mewn ac allan o’ch tŷ trwy ddrysau ar yr ochr gysgodol, a’u cau ar eich ôl.
● Peidiwch ag agor drysau mewnol oni bai fod angen, a’u cau’n gyflym
● Peidiwch â gyrru oni bai fod rhaid a byddwch yn ofalus dros ben. Osgowch ffyrdd digysgod fel pontydd a ffyrdd agored uchel, arafwch, a byddwch yn ymwybodol o groeswyntoedd

Ar ôl y storm:

● Peidiwch â chyffwrdd ceblau trydanol/ffôn sydd wedi’u chwythu i lawr neu sy’n dal i hongian
● Peidiwch â cherdded yn rhy agos at waliau, adeiladau a choed gan y gallent fod wedi’u gwanhau
● Gwnewch yn siŵr bod unrhyw gymdogion neu berthnasau sy’n agored i niwed yn ddiogel a helpwch nhw i wneud trefniadau ar gyfer unrhyw waith atgyweirio

Cewch ragor o gyngor gan y Swyddfa Dywydd.

Oes angen gwaith atgyweirio argyfwng arnoch? Rydyn ni yma i helpu

Gallwch ffonio ein rhif arferol, 0300 123 2100, a byddwch yn cael eich trosglwyddo i’n darparwr y tu allan i oriau, Delta. Neu, gallwch lenwi’r ffurflen isod ar wefan Delta i roi gwybod am waith atgyweirio argyfwng:

https://llesiantdelta.org.uk/delta-connect/argyfwng-y-tu-allan-i-oriau-form

Yn y cyfamser, os ydych yn poeni am ddraeniau neu geunentydd wedi
blocio, rhowch wybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

dyma eu gwybodaeth a chyngor ar lifogydd: https://www.bridgend.gov.uk/residents/nature-climate-and-environment/flooding/floods/