Mae ein tîm Ymgysylltu wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau i’ch cadw’n brysur wrth i ni ddynesu at y Nadolig.
Dyma beth sydd i ddod:
Dydd Llun 2 Rhagfyr
Sesiwn Galw Heibio Gymunedol yn The Bridge, Dunraven Place, Pen-y- bont ar Ogwr am 10am-11:30am
Dydd Mawrth 3 Rhagfyr
Sesiwn Galw Heibio Gymunedol a Phaned gyda Phlismon, Llyfrgell Sarn am 11:30am-1pm
Dydd Iau 5 Rhagfyr
Sesiwn Galw Heibio Gymunedol yng Nghlwb Bowls Wyndham, Nant-y- moel am 9:30am-11:30am
Dydd Llun 9 Rhagfyr
Hwyl yr Ŵyl (preswylwyr yn unig) yn Nhŷ Merfield, Sarn, 11am-1pm
Dydd Mawrth 10 Rhagfyr
Hwyl yr Ŵyl (preswylwyr yn unig) yn Lakeview, Porthcawl am 10am – 12pm
Dydd Mercher 11 Rhagfyr
Hwyl yr Ŵyl (preswylwyr yn unig) yn Treharne Row, Maesteg, 10:30am- 12:30pm
Sesiwn Galw Heibio Gymunedol yng Nghanolfan Gymunedol Wildmill am 4:30-6pm
Dydd Iau 12 Rhagfyr
Hwyl yr Ŵyl (preswylwyr yn unig) yn Llys Ton, Mynyddcynffig
Diwrnod Sgip Cymunedol ym maes parcio Lôn y Cariadon ac ar waelod Ael y Bryn, Marlas am 10am-1pm. Bydd cyfle i sgwrsio gyda’n tîm stadau a mwynhau cacen a phaned am ddim!
Dydd Llun 16 Rhagfyr
Hwyl yr Ŵyl (preswylwyr yn unig) yn Ger y Nant, Pen-y-bont ar Ogwr, am 10am-12pm
Dydd Mawrth 17 Rhagfyr
Sesiwn Galw Heibio Gymunedol (Amdani), Heol Las, Corneli am 10am- 11:30am
Dydd Mercher 18 Rhagfyr
Hwyl yr Ŵyl (preswylwyr yn unig) yn Llys Cynffig, Y Pîl am 10am-12pm
Dydd Iau 19 Rhagfyr
Sesiwn Galw Heibio Gymunedol yn y Neuadd Lesiant, Pencoed am 2pm-4pm
Siaradwch â’n tîm Incwm am Gredyd Pensiwn
Bydd rhywun o’n tîm Incwm yn bresennol ym mhob digwyddiad i’ch helpu os oes gennych gwestiynau ynglŷn â’r Tâl Tanwydd Gaeaf neu Gredyd Pensiwn