Yn ddiweddar ymwelodd ein swyddogion datblygu â safle adeiladu Blaenllynfi i weld sut oedd pethau’n mynd yn eu blaen. Mae’r tai bron â bod yn barod a chyn hir, byddant yn gartrefi i 20 o deuluoedd.


Dyma grynodeb o’n cynnydd diweddaraf:


Mae’r budd i’r gymuned ar fynd: mae ein contractwr, Pendragon (Design & Build) Limited, yn cydweithio’n agos gyda sefydliadau lleol fel Noddfa i sicrhau’r budd mwyaf i’r gymuned yn sgil y prosiect

Mae’r fframiau pren MMC wedi eu gosod ar bron pob llain

Mae gan lawer o’r cartrefi doeon yn barod, gyda phaneli solar wedi’u gosod arnynt.

Cartrefi sy’n barod at y dyfodol


Mae pob un o’r 20 o gartrefi’n cael eu hadeiladu i’r safonau uchaf, yn defnyddio dulliau adeiladu modern sy’n cydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru. Ac mae’n nodedig bod ganddynt sgôr effeithlonrwydd TPY-A, a fydd yn helpu’r preswylwyr gyda’u costau byw, ynghyd â bod yn ecogyfeillgar.

Cartrefi gwell i bawb


Mae ein datblygiadau newydd, fel yr un yn Blaenllynfi, yn ein helpu i gryfhau ein sefyllfa ariannol wrth fenthyca gan fanciau. Mae hyn yn caniatáu i ni ail-fuddsoddi yn y cartrefi sydd gennym yn barod a pharhau i ddarparu tai o safon uchel i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Beth nesa?

Y bwriad yw trosglwyddo ym mis Mawrth 2025, a chynhelir y cyfarfod cynnydd nesaf y mis hwn.