Yr wythnos ddiwethaf, gwahoddom ein cwsmeriaid i sesiwn ar sut rydym yn ymgysylltu â nhw.
Dan arweiniad Treena o Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, taflom syniadau ar sut i wella ein hymgysylltu a chwblhau ein strategaeth newydd – sydd â’n cwsmeriaid wrth ei chalon.
Dyma beth oedd gan ein cwsmeriaid i’w ddweud
Mae’n bwysig iddynt ein bod yn gwrando ar eu barn.
Maent yn gwerthfawrogi cael eu diweddaru ar brosiectau maent wedi cyfrannu atynt fel y gallant weld eu bod yn cael effaith go iawn.
Un o’r enydau mwyaf cofiadwy yn ystod y diwrnod oedd pan ofynnom i’n cwsmeriaid beth fyddai eu gwobrau delfrydol am ymgysylltu â ni. Dywedont eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth, mae hyn yn bwysicach na chael unrhyw wobr neu gydnabyddiaeth. Mae pawb a ddaeth i’r sesiwn yn awyddus i barhau i gyfrannu, felly rydyn ni eisiau dweud diolch o galon i’r rhai a fynychodd – edrychwn ymlaen at eich gweld chi y tro nesaf!
Ddim eisiau colli sesiynau yn y dyfodol? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Cysylltwch â’r tîm Ymgysylltu drwy e-bostio customervoice@v2c.org.uk, neu drwy ffonio neu decstio ar 07557 345076 neu 07717571735.