Wrth i’r tywydd oeri, ac i bris gwresogi godi, mae angen i bob un ohonom fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael â lleithder, llwydni ac anwedd.


Rydym yn gweithio i gadw ein cartrefi’n ddiogel ac yn gynnes drwy ddefnyddio dull newydd o ddelio â lleithder a llwydni eleni.

Chwe ffordd rydym yn eich helpu’r gaeaf hwn

1.) Rydym wedi sefydlu tîm Lleithder, Llwydni ac Anwedd penodedig i symud ein ffocws at atal lleithder a llwydni yn ein cartrefi, yn hytrach nag ymateb ar ôl i’r problemau ymgodi.

2.) Rydym wedi dechrau nodi’r cartrefi sy’n debygol o gael problemau gyda lleithder, llwydni ac anwedd, yn cynnwys y rhai yn Stad Caerau, Darren Bungalows, Stad Tudor, a Maesteg. Trwy ddadansoddi’r data,
gallwn dargedu’r mannau lle mae angen ein hymdrechion fwyaf.

3.) Rydym yn archwilio defnyddio Synwyryddion Amgylcheddol Aico sydd wedi’u cysylltu â’r system drydanol. Maent yn monitro lleithder, tymheredd, a lefelau lleithder, sydd bob un yn cyfrannu at leithder a llwydni. Rydym wedi gosod rhai o’r synwyryddion hyn mewn cartrefi yn Darren Bungalows yn barod a gobeithiwn eu gosod mewn mwy o dai cyn hir i atal lleithder a llwydni.

4.) Byddwn yn rhoi awgrymiadau a chyngor ymarferol ynghylch sut gallwch leihau lleithder, llwydni ac anwedd yn eich cartrefi. Gal camau syml fel defnyddio gwyntyllau echdynnu, cadw ffenestri rhyw
ychydig ar agor a rheoli tymereddau mewnol, wneud gwahaniaeth mawr.

5.) Byddwn yn trefnu sesiynau grŵp a sesiynau galw heibio cymunedol, yn enwedig yn yr ardaloedd sy’n dioddef fwyaf. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy, gofyn cwestiynau a rhannu pryderon.

6.) Rydym yn ystyried sut gallwn weithio gyda’n cydweithwyr sy’n mynd i’n cartrefi’n rheolaidd i gynnal arolygon a gwaith atgyweirio – fel y gallant fynd cam ymhellach a rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o leithder, llwydni ac anwedd.

Helpwch ni i’ch helpu chi

Rhowch wybod am unrhyw arwyddion o leithder, llwydni neu anwedd. Gallwch wneud hyn mewn 4 munud drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gyntaf oll y cawn wybod, cyntaf oll y gallwn weithredu.