Rydyn ni’n dod at ein gilydd i wneud rhywbeth bach yn ychwanegol i helpu’n cymunedau lleol y Nadolig hwn ‒ dyma sut gallwch chi helpu.


Rhoddion banc bwyd


Rydyn ni’n casglu eitemau ar gyfer banciau bwyd lleol i sicrhau bod pawb yn cael pryd o fwyd y Nadolig hwn. Os hoffech gyfrannu, dewch ag unrhyw eitemau bwyd nad ydynt yn darfod i’n swyddfa ym Mharc Busnes Tremains, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1TZ. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich rhoddion yn cael eu danfon yn syth i’r banc bwyd mewn pryd ar gyfer y gwyliau.


Apêl Santa Clôs Pen-y-bont ar Ogwr


Helpwch ni i ddod â llawenydd y Nadolig i blant a phobl ifanc ar draws Pen-y-bont ar Ogwr trwy gefnogi’r Apêl Siôn Corn, a drefnir gan adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.


Yn ogystal ag Apêl Siôn Corn, rydyn ni’n gofyn i’n contractwyr a’n partneriaid gyfrannu at gronfa fechan i roi cardiau rhodd i blant hŷn na fydd eisiau cael teganau efallai. Os bydd hyn yn llwyddiannus, mae’n golygu y bydd pawb yn cael rhywbeth arbennig i edrych ymlaen ato ar fore’r Nadolig.


Lledaenwch y gair i unrhyw gontractwyr neu bartneriaid rydych yn gweithio gyda nhw!

Sut i Gyfrannu


Rhoddion o Arian (dewisol): Gallwch wneud rhodd ar-lein trwy dudalen Just Giving Awen neu wneud rhodd arian parod neu drwy gerdyn yng nghanolfannau hamdden a phyllau nofio Halo.


Bydd y dudalen Just Giving yn cau ddydd Gwener 13 Rhagfyr 2024.

Rhoi Anrhegion:


Os yw’n well gennych roi anrheg newydd, heb ei lapio mewn bag anrhegion, dewch ag ef i’n swyddfa rhwng dydd Llun 18 Tachwedd a dydd Gwener 29 Tachwedd 2024.


Bydd gwirfoddolwyr yn trefnu’r anrhegion fesul oedran a’u lapio ar gyfer eu dosbarthu.


Diolch o galon i chi ymlaen llaw am eich caredigrwydd a’ch ysbryd y Nadolig!