Oherwydd y newid yn y Taliadau Tanwydd Gaeaf eleni, rhaid i chi fod yn derbyn Credyd Pensiwn i gael lwmp-swm di-dreth gwerth hyd ar £300.

Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn yn barod, does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Bydd y Tâl Tanwydd Gaeaf yn cael ei dalu i’ch banc ym mis Tachwedd neu Ragfyr.

Dw i ddim yn derbyn credyd pensiwn – beth sydd angen i mi ei wneud?

Dylech wirio a ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn. Os oeddech yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn a buddiannau prawf modd eraill yn ystod yr wythnos 16-22 Medi ac fe gawsoch eich geni ar, neu cyn 22 Medi 1958, gallech fod yn gymwys i dderbyn Tâl Tanwydd Gaeaf o hyd.

Gwiriwch eich cymhwysedd Credyd Pensiwn ac ymgeisiwch yma:

Gall Credyd Pensiwn gael ei ôl-ddyddio hyd at 3 mis, felly y dyddiad olaf i wneud hawliad a dal i dderbyn Tâl Tanwydd Gaeaf os yw’n llwyddiannus yw 21 Rhagfyr 2024.

Mae gen i gwestiwn – â phwy alla i gysylltu?

Os ydych yn cael anhawster wrth wneud cais neu mae gennych gwestiwn ynglŷn â’r broses ymgeisio, gallwch ffonio ein hyb ar 0300 123 2100.

Helpwch ni i ledaenu’r gair!

Os ydych yn adnabod rhywun a allai fod yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn a’r Tâl Tanwydd Gaeaf, rhowch wybod iddyn nhw sut a phryd i ymgeisio.