Mae ein Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu wedi cael ei chydnabod am ei harweinyddiaeth ragorol a’i chyfraniad eithriadol i’n sefydliad.
Diwrnod balch i Gymoedd i’r Arfordir Yn gynharach y mis hwn, teithiodd Laura Morris a Lizzie Conway, Arweinydd y Tîm Cyfathrebu, i Leeds ar gyfer y gynhadledd CommsHero.
Roeddem yn falch bod ein gwaith cyfathrebu wrth greu Llanw wedi cael ei gydnabod a’i roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Lastminute.com, ond uchafbwynt y diwrnod oedd buddugoliaeth fawr Laura!
“Ymgorfforiad o Arweinydd Comms Hero”
Meddai CommsHero “Mae arweinyddiaeth eithriadol Laura, ei hymroddiad i ragoriaeth, a’i chefnogaeth ddiysgog o’i thîm yn golygu ei bod yn ymgorfforiad o arweinydd CommsHero. Mae hi wir yn deilwng o’r gydnabyddiaeth hon am ei chyfraniadau eithriadol i’r sefydliad.
“Y prif beth sy’n gosod Laura ar wahân yw ei bod yn gwbl agored i syniadau newydd ac yn fodlon grymuso cydweithwyr i arwain mentrau. Mae’n dirprwyo tasgau gydag ymddiriedaeth ac yn darparu cefnogaeth lle bo angen, gan greu diwylliant o arloesedd a chydweithrediad.”
Gair bach gan Laura:
Meddai Laura: “Roedd ennill y wobr yn bleser annisgwyl. Roedd cael fy enwebu gan fy nhîm yn wobr yn ei hun, ond mae ennill yn anrhydedd go iawn. Gwaith hawdd yw bod yn arweinydd pan fod gennych dîm anhygoel.”
Llongyfarchiadau i Laura a’r tîm Cyfathrebu am eu gwaith rhagorol!