Eleni, cyflwynom ein hunain i Wobrau Tai Cymru mewn dau gategori, ac rydym ar y rhestr fer ar gyfer y ddau. Mae Gwobrau Tai Cymru yn dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd gan sefydliadau tai ac unigolion ar draws Cymru. Mae’n gydnabyddiaeth wych o’r gwaith a wnawn yn darparu cartrefi lle mae pobl yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel.
Tîm Incwm Cymunedol – Tîm Tai’r Flwyddyn
Yn gyntaf, enwebom ein Tîm Incwm Cymunedol ar gyfer Tîm Tai’r Flwyddyn, ac maen nhw ar y rhestr fer! Mae’r tîm hwn wedi bod yn rhagweithiol yn rhagweld yr heriau mae ein tenantiaid yn eu hwynebu – fel effaith dileu’r Taliadau Tanwydd Gaeaf ar denantiaid oedrannus. Mewn ymateb, maent yn datblygu prosiect cymorth rhagweithiol i helpu pobl sy’n derbyn pensiwn y wladwriaeth i reoli eu rhent yn ystod y misoedd oer. Mae eu hymroddiad yn enghraifft berffaith o sut rydym yn teithio’r filltir ychwanegol i sicrhau bod ein tenantiaid yn cael cefnogaeth ac yn teimo’n saff yn eu cartrefi.
Louisa Thomas – Cyflawnwr Ifanc yn y Wobr Tai
Mae ein hail enwebiad i Louisa Thomas, sydd ar restr fer y Cyflawnwr Ifanc yn y Wobr Tai. Gwelwyd dawn arwain Louisa, a’i gallu i feddwl yn gyflym, pan effeithiodd y llifogydd diweddar ar gartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fel ein Partner Tai Cymunedol, cymerodd yr awenau gan ymweld a siarad yn bersonol â’r 12 cwsmer yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Trefnodd Louisa lety amgen i’r rhai oedd ei angen, gan sicrhau bod gan bawb le diogel a chynnes i aros. Mae ei hymroddiad yn dod i’r amlwg ar amserau fel hyn, ac rydym yn falch o weld bod ei hymdrechion yn cael eu cydnabod.
Beth nesa?
Byddwn yn ymuno â phobl tai eraill ar 12 Rhagfyr, pan gyhoeddir yr enillwyr. Croesi bysedd y
byddwn yn ennill gwobr neu ddwy’r noson honno!