Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod Cymoedd i’r Arfordir yn sefydliad cynhwysol sy’n deall anghenion a phrofiadau ein tenantiaid, ac mae hyfforddi’n cydweithwyr yn chwarae rhan allweddol yn hyn.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth y Cynghorydd Dementia, Alison Nunnick, atom i gynnal dwy sesiwn wybodaeth Cyfeillion Dementia i’n helpu i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yn well.

Y pum prif bwynt a ddysgwyd yn y sesiynau:

  1. Nid yw dementia yn rhan naturiol o heneiddio
  2. Achosir dementia gan glefydau’r ymennydd
  3. Mae dementia yn golygu mwy na cholli eich cof yn unig
  4. Gall pobl sydd â dementia barhau i ymgysylltu a chadw’n brysur
  5. Mae Cymdeithas Alzheimer yno i bawb sy’n byw gyda dementia

Yn ogystal, rhannodd Alison fideo grymus sy’n defnyddio’r
cydweddiad cwpwrdd llyfrau i esbonio sut mae dementia yn gweithio.

Sut rydyn ni’n troi deall yn weithredu

Ar ôl y sesiwn, trafodom sut rydyn ni’n mynd i roi’r pethau a ddysgom
ar waith, yn cynnwys:

Bod yn amyneddgar pan fyddwn allan yn ein cymunedau. Cyfeirio ein cwsmeriaid a’u teuluoedd at linell gymorth a gwefan dementia. Gwisgo ein bathodynnau Cyfeillion Dementia a lledaenu’r gair am y fenter
Cyfeillion Dementia.

Meddai Swyddog Cymorth y Prosiect, Mel Thomas: “Ar ôl yr hyfforddiant hwn, rwy’n teimlo’n llawer mwy cymwys i gefnogi tenantiaid y mae dementia yn effeithio arnynt”.

Oes angen rhywfaint o gymorth arnoch chi?

Rhif y brif linell gymorth dementia yw 0333 150 3456. Bydd y llinell gymorth hon yn rhoi gwybod i chi am unrhyw grwpiau cymorth lleol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a’r cwmpasoedd.

Amserau Agor:

Dydd Llun i ddydd Mercher – 9am-8pm
Dydd Iau a dydd Gwener – 9am-5pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul – 10am-4pm
Neu ewch i alzheimers.org.uk
E-bost: enquiries@alzheimers.org.uk