Mae sicrhau eich bod yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus yn eich cartrefi wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Dyma pam ein bod yn credu ei bod yn bwysig i ni eich tywys trwy’r broses o adrodd am faterion atgyweirio a’u datrys. 

Cam Un: Adrodd am y broblem
Adrodd am unrhyw anghenion difrod neu atgyweirio wrthyn ni ar unwaith.

Hefyd, cofiwch wirio eich contract meddiannaeth i weld pwy sy’n gyfrifol am yr atgyweirio. Os ydyn ni’n gyfrifol am yr atgyweirio, byddwn yn mynd i’r afael ag ef cyn gynted â phosibl, yn seiliedig ar ddifrifoldeb y broblem.

Y ffordd orau o adrodd am broblem? Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein, ffoniwch ni ar 0300 123 2100 neu e-bostiwch ni: TheHub@v2c.org.uk

Cam Dau: Os nad ydych chi’n fodlon ar y sefyllfa, cyflwynwch gŵyn
Os nad ydych chi’n fodlon ar atgyweiriad, gallwch gyflwyno cwyn i ni.

Rydym yn cymryd eich pryderon a’ch cwynion o ddifrif ac rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â nhw. 

Rhowch gyfle i ni gywiro pethau trwy fynd trwy’r broses cyflwyno cwyn cyn ystyried camau gweithredu pellach. Yn aml, y ffordd gyflymaf a mwyaf cost-effeithiol yw datrys atgyweiriadau nad ydynt wedi’u cyflawni.
 
Y ffordd orau o gofnodi cwyn? Defnyddiwch ein gwasanaethau ar-lein, ffoniwch ni ar 0300 123 2100 neu e-bostiwch ni: TheHub@v2c.org.uk

Cam Tri: Cynyddu i’r Ombwdsmon
Os yw’r broblem heb ei datrys o hyd ymhen cyfnod rhesymol neu os nad ydych chi’n fodlon ar ein hymateb i’ch cwyn, gallwch gynyddu’r mater i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pan fydd y gŵyn wedi’i chau. 

Mae’r Ombwdsmon yn gorff di-duedd ac annibynnol sydd â’r awdurdod i sicrhau ymchwiliadau teg, cyson a thryloyw a gall ddyfarnu iawndal os byddwn yn methu yn y meysydd hynny. Fodd bynnag, ni fydd yn
gweithredu os yw’ch cwyn ar agor gyda ni o hyd.

Cwmnïau Rheoli Hawliadau a Chyfreithwyr
Gallwch ofyn am gyngor gan Cyngor Ar Bopeth sy’n cynnig arweiniad cyfrinachol am ddim gan gynnwys atgyfeiriadau i gymorth cyfreithiol am ddim neu gymorth fforddiadwy. Ewch i www.citizensadvice.org.uk/wales i gael rhagor o wybodaeth.

Gall cwmnïau rheoli hawliadau a chyfreithwyr helpu i gyflawni atgyweiriadau ond gall y llwybr hwn fod yn hir ac yn gostus. Dyma’r elfennau cadarnhaol a’r elfennau negyddol:

Rhesymau am fynd ar ôl hawliad cyfreithiol:

  • Gall gweithwyr proffesiynool ym maes y gyfraith gynorthwyo â llywio camau cymhleth os yw pob dewis arall wedi bod yn aflwyddiannus.
  • Gallai ennill yn y llys arwain at gael iawndal.

Ystyriaethau:

  • Gall achosion cyfreithiol gymryd llawer o amser ac nid yw llwyddo wedi’i warantu. Gallai colli’r achos olygu talu ein costau cyfreithiol ni.
  • Fel arfer, ni fydd yr Ombwdsmon yn ystyried cwyn os byddwch yn dilyn y llwybr cyfreithiol.
  • Gall achosion cyfreithiol gymryd llawer o amser a chynnwys costau llys sylweddol os nad yw’r hawliad yn llwyddiannus neu os caiff yr hawliad ei dynnu yn ôl.
  • Gallai ennill achos olygu talu ffioedd cyfreithiwr neu gwmni rheoli hawliadau neu dalu canran o unrhyw iawndal a ddyfernir i chi.

Cofiwch: Hyd yn oed os oes gennych chi hawliad gweithredol, mae’n rhaid caniatáu mynediad at yr eiddo i ni ar gyfer cynnal atygweiriadau. Bydd gwrthod mynediad yn achosi oedi o ran cynnal atgyweiriadau a bydd yn effeithio ar ganlyniad eich achos cyfreithiol gan, o bosibl, dorri eich contract meddiannaeth.

Gocheler sgamwyr: Cofiwch ddilysu manylion unrhyw gwmni rheoli hawliadau neu unrhyw gyfreithiwr rydych chi’n siarad ag ef, hyd yn oed os yw’n honni ei fod wedi dod ar ran Cymoedd i’r Arfordir. Mae’n rhaid bod cwmnïau rheoli hawliadau wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac mae cyfreithwyr wedi’u rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Gwiriwch wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr i gadarnhau cyfreithlondeb cwmni neu gyfreithiwr.