Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein cymdogaethau nid yn unig yn lleoedd i fyw ynddynt, ond hefyd yn lleoedd i ffynnu ynddynt. Efallai nad ydych yn gwybod hyn, ond rydym yn gofalu am tua 500 o goed ac mae gennym tua 525,000m² o dir ar draws ein stadau! Dyna pam rydym yn gwirio’r coed ar dros ein holl stadau, i sicrhau eu bod yn iach ac yn ddiogel i bawb.


Dros yr wythnosau nesaf, bydd ein contractwr coed allan o gwmpas yn arolygu pob coeden am unrhyw arwyddion o glefyd neu beryglon posibl. Os bydd unrhyw goed yn creu risg, bydd rhaid i ni eu torri ond, peidiwch â phoeni, rydym yn ymrwymedig i blannu coeden newydd yn lle pob un!

“Rydym yn llawn cynnwrf wrth blannu coed newydd ar draws ein stadau,” meddai Cassie Jennings, ein Swyddog Stadau Cymunedau. “Mae hyn yn ymwneud nid yn unig â diogelwch, mae’n ymwneud hefyd â chreu mannau hardd, cynaliadwy y gall pawb eu mwynhau. Ac mae angen eich cymorth chi arnom!”

P’un ai rydych yn arddwr profiadol neu’n berson sy’n frwd dros eich cymuned, byddem yn falch iawn pe gallech ymuno â ni yn y fenter werdd hon. Rhannwch eich syniadau ar ble hoffech weld coed newydd yn cael eu plannu a pha fathau hoffech eu gweld. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy wrth ein helpu i greu cymdogaethau y mae ein preswylwyr yn falch o fyw ynddynt.


Mae’r prosiect hwn yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i weithio law yn llaw gyda’n cymunedau, buddsoddi yn ein cymdogaethau, a chreu effaith cadarnhaol – yn gymdeithasol, economaidd, ac yn amgylcheddol. Yn union fel ein prosiect Twf er Lles a’r fenter Coedwig Fechan. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.


Cadwch olwg am fwy o ddiweddariadau ar sut gallwch chwithau gymryd rhan!