Diolch i’r rhai ohonoch chi a ddaeth i’r digwyddiad Tŷ Agored a gynhaliwyd y mis diwethaf lle trafodwyd ein hymdrechion parhaus i symud 31 o’n cartrefi o gyflenwad nwy i gyflenwad trydan fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i ddatgarboneiddio, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni.
Roedd wyth teulu yn bresennol dros y ddau ddiwrnod – ychydig yn llai nag y disgwyliwyd o’r 31 o gartrefi a wahoddwyd i’r digwyddiad. Er y byddem wedi hoffi gweld mwy o bobl yn bresennol, roedd y rhyngweithio cadarnhaol â’r rhai a oedd yn bresennol wedi’i wneud yn brofiad gwerthfawr. Roedd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn frwdfrydig o ran y prosiect ac, er bod ychydig o bryderon, roedd modd i ni fynd i’r afael â nhw yn ystod yr ymweliad.
Trosolwg o’r adborth
Dyma grynodeb byr o’r adborth gan drigolion yr wyth cartref a oedd yn bresennol.
Elfennau cadarnhaol:
- Roedd llawer o gwsmeriaid yn croesawu’r system newydd ac maent yn gyffrous o ran symud y gosodiad yn ei flaen.
- Roedd cael cyfle i weld y system ar waith a gofyn cwestiynau wedi’i werthfawrogi’n fawr. Helpodd y profiad ymarferol hwn i fynd i’r afael â phryderon a magu hyder yn y prosiect.
- Ar ôl i ni ateb y cwestiynau, roedd cwsmeriaid yn teimlo’n dawel eu meddwl a gadawodd y rhan fwyaf ohonynt gan feddwl yn gadarnhaol am y newidiadau sydd ar y gweill.
Pryderon a godwyd:
- Roedd rhai cwsmeriaid yn pryderu am lefel y tarfu y gallai’r gosodiad ei achosi a sut byddai’n effeithio ar eu harferion o ddydd i ddydd neu ar eu hamodau byw presennol.
- Roedd problemau megis biliau uwch, effeithiolrwydd y system wresogi a’r gofod y byddai ei angen ar y cyfarpar newydd yn bwyntiau o bryder ar gyfer rhai o’r mynychwyr.
- Roedd pryderon o ran sut gallai’r system newydd effeithio ar faterion presennol megis lleithder neu lwydni mewn rhai cartrefi.
- Ar gyfer eiddo byw gyda chymorth, roedd pryderon ynghylch y gwaith yn tarfu ar drigolion ac awgrymwyd y gellir trefnu gwaith yn ystod cyfnodau seibiant.
- Codwyd cwestiynau ynghylch risgiau tân posibl a cholli lle storio a gofynnodd rhai am atebion amgen ar gyfer storio batris ac maint y tanc.
Hoffem ddiolch i’r rhai a roddodd adborth ar Facebook. Roedd eich cwestiynau a’ch sylwadau ar ein postiad yn werthfawr iawn ac rydym yn gwerthfawrogi eich gwybodaeth a’ch cipolygon.
Ar gyfer y rhai nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y digwyddiad Tŷ Agored, mae gennym fideo ein syrfëwr sy’n arddangos y rheiddiaduron newydd a sut byddant yn edrych. Ar ben hyn, mae ein syrfëwr, Anthony Davies, sy’n arwain y prosiect hwn, wedi ateb rhywfaint o’r cwestiynau a godwyd yn ystod y digwyddiad.
Er gwaethaf ychydig o bryderon ar y dechrau, ar y cyfan roedd yr adborth gan ein cwsmeriaid yn gadarnhaol iawn. Roedd llawer ohonynt yn gwerthfawrogi’r cyfle i ymweld â’r eiddo, gweld y system newydd ar waith a chael eu cwestiynnau wedi’u hateb yn uniongyrchol. Helpodd y digwyddiad i leddfu’r rhan fwyaf o’r pryderon ac roedd cwsmeriaid yn teimlo’n dawel eu meddwl ac yn hyderus o ran y prosiect erbyn iddynt adael.
Rydym yn gyffrous i gadw ati i wthio’r ymdrechion hyn yn eu blaen ac, unwaith eto, diolch yn fawr i bawb am ddod!