Rydym wedi prynu safle hen Glwb Cymdeithasol Bettws, lle byddwn yn adeiladu 20 o fflatiau un ystafell wely drwy’r datblygwyr eiddo, Castell Group. Mae’r caniatâd cynllunio yn ei le, ac mae hwn yn gam mawr ymlaen wrth greu cartrefi newydd ar gyfer y gymuned.
Mae adeiladu’r cartrefi newydd hyn nid yn unig yn helpu pobl yn yr ardal, ond mae hefyd yn ein rhoi ninnau mewn sefyllfa ariannol gryfach. Wrth i ni barhau i ddatblygu eiddo gwerthfawr, mae’n haws i ni fenthyca arian gan fanciau, gan ein caniatáu i ail-fuddsoddi yn ein cartrefi a mwy o brosiectau sy’n fuddiol i’r gymuned.
Mae galw mawr am fflatiau un ystafell wely fforddiadwy yn yr ardal, fel y nodwyd gan Gyngor Pen-y-bont. Rydym yn cydweithio’n agos â’r cyngor a Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r angen hwn drwy ddarparu tai fforddiadwy.
O blith yr 20 o fflatiau newydd, bydd mynediad cymunedol i 18 ohonynt a bydd dwy â mynediad llawr gwaelod. Bydd yr holl fflatiau ar gael fel tai cymdeithasol, sy’n golygu eu bod yn darparu opsiynau byw fforddiadwy i bobl sudd eu hangen. Disgwylir y bydd y rhent ar y fflatiau tua £102.85 yr wythnos, gyda thaliadau gwasanaeth o tua £10 yr wythnos. Gallai’r costau hyn newid erbyn i’r datblygiad gael ei orffen yn 2026. Cewch fwy o wybodaeth am sut rydym yn dosbarthu ein cartrefi drwy glicio yma.
Rydym yn sicrhau bod y fflatiau newydd yn cael eu cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg. Bydd y fflatiau llawr gwaelod yn cynnwys mynediad hawdd ac ystafelloedd gwlyb, sy’n arbennig o ddefnyddiol i bobl â materion symudedd neu anghenion iechyd. Ein nod yw sicrhau bod gan bawb fan cyffyrddus a hygyrch i fyw ynddo.
Bydd y fflatiau newydd yn ymestyn dros ddau adeilad: un adeilad llai gyda 9 fflat ac adeilad mwy gydag 11 fflat. Rydym wedi trefnu’r cynllun i wneud y defnydd gorau o le a chreu amgylchedd croesawgar i breswylwyr. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys 21 o leoedd parcio a man storio beiciau diogel i wneud bywyd yn haws a saffach i bawb.
Daw’r cyllid ar gyfer y prosiect hwn o wahanol ffynonellau, yn cynnwys y Ffrwd Gyllido Grantiau Tai Cymdeithasol, ynghyd â chyfraniadau o’n hadnoddau ninnau. Disgwylir y byddwn yn gorffen y prosiect erbyn Ebrill 2026.
Edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn dod yn fyw a helpu i gwrdd â’r angen am dai fforddiadwy ym Mhen-y-bont ar Ogwr.