Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a llwyddwyd i lofnodi ein datganiadau ariannol. Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i ni adolygu ein perfformiad dros y flwyddyn diwethaf, cyflwyno datganiadau ariannol a gosod ein hymrwymiadau ar gyfer y dyfodol gyda’n rhanddeiliaid a’n cwsmeriaid.

Un o uchafbwyntiau Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni oedd trosglwyddo arweinyddiaeth. Wrth i ni ffarwelio ag Anthony Whittaker fel Cadeirydd y Bwrdd, rhoddir croeso cynnes i Amanda Davis wrth iddi ymgymryd â’r rôl.


Nid oedd modd dechrau’r cyfarfod heb roi cydnabyddiaeth wresog ar farwolaeth dau o’n cyn-randdeiliaid a chwsmeriaid sef Billy Kelly a Robert Sayce. Maent wedi ymroi llawer o amser a chefnogaeth i ni dros y blynyddoedd ers y trosglwyddiad stoc.

Roedd cael cyfle i fyfyrio a rhannu crynodeb o’n cyflawniadau, ein heriau a’n gweithgareddau sylweddol o’r flwyddyn flaenorol yn wych ac yn eu plith roedd:

  • Lansio Llanw, ein cwmni atgyweiriadau a chynnal a chadw newydd.
  • Rhoi Service Connect, ein system TG ar gyfer rheoli ein hatgyweiriadau, ar waith.
  • Gwella ein hymarferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i ddeall sut gallwn gefnogi anghenion amrywiol ein cwsmeriaid yn well.
  • Llwyddo i ddarparu 43 o gartrefi newydd.
  • Buddsoddi £21 miliwn yn ystod y flwyddyn diwethaf i sicrhau bod ein cartrefi yn ddiogel, yn gynnes ac yn sych.
  • Lansio ein prosiect Twf Er Daioni – mewn partneriaeth â’n cwsmeriaid, gan drawsnewid yr ardaloedd gwyrdd a llwyd yn ein cymunedau.
  • A gweddnewid ein hystâd Cilgant y Jiwbilî – gan atal tipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol a chreu ardal gyffredin y gall trigolion ei defnyddio.

Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, pwysleiodd Amanda, Cadeirydd ein Bwrdd, bwysigrwydd buddsoddi mewn technoleg effeithlon a hygyrch. Pwysleisiodd fod gwella’r ffordd rydym yn casglu adborth gan gwsmeriaid a mynd i’r afael â’u blaenoriaethau yn allweddol. Nododd fod gwrando ar ein cydweithwyr a’u cefnogi wrth i ni barhau i wella ein gwasanaethau yr un mor bwysig.

Gofynnwyd nifer o gwestiynau cyn y cyfarfod. Mae’r cwestiynau a’r atebion wedi’u nodi isod.

Yn olaf, yn dilyn pleidlais unfrydol, ailbenodwyd Bevan Buckland LLP fel ein harchwilwyr allanol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Gallwch ddarllen ein Hadroddiad Blynyddol a’n Datganiadau Ariannol ar gyfer 2023-24 yma.