Rydym yn credu ym mhŵer dysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Heddiw, rydym wrth ein bodd o ddathlu llwyddiannau pump o’n cydweithwyr – Lizzie, Chris, Bethan, Darren a Kayleigh – sydd wedi cwblhau eu Lefel 5 mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.


Mae’r cymhwyster hwn yn gam sylweddol yn eu gyrfaoedd, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth uwch iddynt i arwain timau yn effeithiol a mynd i’r afael â heriau cymhleth.

Rhannodd ein Partner Pobl Dysgu a Datblygu, Craig Wadley, ei farn ar eu llwyddiant:

“Mae’n gyflawniad anhygoel i Lizzie, Chris, Bethan, Darren a Kayleigh. Mae ennill cymhwyster Lefel 5 mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth yn dipyn o gamp. Mae’n adlewyrchu eu hymrwymiad i’w twf personol ac i wneud cyfraniadau ystyrlon i’n timau a’n busnes. Rydym yn falch o’u cefnogi ar y daith
hon.”

Diolch i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr am eu cefnogaeth wrth helpu ein cydweithwyr i ennill cymhwyster, a pharhau â’u cyfrifoldebau gwaith ar yr un pryd. Mae eu harweiniad a’u hyblygrwydd wedi bod yn hanfodol wrth helpu i gydbwyso gwaith ac astudio, gan hwyluso’r cyflawniad hwn.